Mae miloedd o ddisgyblion wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru ledled y wlad, gyda 10.1% wedi ennill gradd A*, a 29.9% wedi ennill gradd A* i A.

97.4% o ddisgyblion sydd wedi ennill graddau A* i E.

Dyma’r tro cyntaf i’r canlyniadau gael eu dyfarnu yn yr un modd ag yr oedden nhw cyn y pandemig.

Cafodd 32,235 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma.

Ar gyfer unigolion 18 oed gymerodd gymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 9.7% o’r graddau gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 29.7% yn raddau A* i A a 97.7% yn raddau A* i E.

Cafodd 41,440 o raddau Uwch Gyfrannol eu dyfarnu yr haf yma, gyda 22.1% yn radd A a 90.2% yn raddau A i E.

Ar gyfer unigolion 17 oed gymerodd gymwysterau Uwch Gyfrannol CBAC, roedd 22.5% yn raddau A a 89.8% yn raddau A i E.

Llongyfarchiadau

Mae Cymwysterau Cymru wedi llongyfarch yr holl ddisgyblion.

“Da iawn i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw, llongyfarchiadau,” meddai’r Prif Weithredwr Philip Blaker.

“Mae canlyniadau yn garreg filltir sylweddol ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer yn edrych ymlaen at eu camau nesaf – boed hynny tuag at waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.

“Rwy’n gobeithio y cawsoch y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael.

“Os na, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi, gan gynnwys trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â gwybodaeth am bwy all eich helpu ar ein gwefan.

“Er mwyn paratoi dysgwyr i gymryd eu camau nesaf, mae’n hanfodol bod cymwysterau yng Nghymru yn rai mae pobol yn ymddiried ynddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan ddangos yr hyn mae dysgwyr yn ei wybod ac yn gallu ei wneud.

“Dyna pam ei bod yn bwysig dychwelyd at drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau, er mwyn sicrhau tegwch hirdymor o fewn y system, a sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru symud ymlaen yn hyderus tuag at beth bynnag sydd o’u blaenau.

“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy eu cyrsiau, yn enwedig i ymarferwyr a staff eraill mewn canolfannau am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos gwytnwch y dysgwyr yng Nghymru yn glir yn ogystal ag ymrwymiad y rhai sy’n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr trwy eu hastudiaethau.”