Hapusrwydd, nerfusrwydd a rhyddhad – dyma rai o’r emosiynau oedd i’w gweld yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd wrth i’r disgyblion dderbyn eu canlyniadau heddiw.
Aeth golwg360 draw i’r ysgol yn y brifddinas fore heddiw (dydd Iau, Awst 15), lle’r oedd nifer o’r disgyblion eisoes wedi derbyn e-bost neu neges destun yn cadarnhau eu lleoedd mewn prifysgolion.
Ar draws Cymru, mae miloedd o ddisgyblion wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru.
Fe wnaeth 10.1% ennill gradd A*, a 29.9% wedi ennill gradd A* i A.
Mae 97.4% o ddisgyblion ledled y wlad wedi ennill graddau A* i E.
Dyma’r tro cyntaf i’r canlyniadau gael eu dyfarnu yn yr un modd ag yr oedden nhw cyn y pandemig.
Ond beth oedd gan ddisgyblion a Phrifathro Ysgol Bro Edern i’w ddweud am y canlyniadau?
Hapusrwydd, nerfusrwydd a rhyddhad – dyma rai o’r emosiynau oedd i’w gweld yn Ysgol @BroEdern yng Nghaerdydd wrth i’r disgyblion dderbyn eu canlyniadau heddiw
A hithau'r flwyddyn arholiadau Lefel A arferol gyntaf ers Covid, roedd yn brofiad eithaf gwahanol eleni… pic.twitter.com/AImAAWxjjh
— Golwg360 (@Golwg360) August 15, 2024
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn, ond rŵan dwi’n teimlo wedi rhyddhau,” meddai Nia wrth golwg360, a hithau’n bwriadu mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio Seicoleg.
“Fi’n credu oedd rhai o’r arholiadau ddim y gorau, yn enwedig Mathemateg. Mi roedd pawb wedi gweld o fel yna.
“Oedd y rai arall yn oce fi’n credu, ond ti byth wir yn gwybod sut wyt ti wedi gwneud tan ar ôl.”
Roedd Daniel yn yr ysgol i dderbyn ei ganlyniadau Hanes, Seicoleg, Daearyddiaeth a’r Fagloriaeth.
Cafodd y canlyniadau roedd e’n eu disgwyl, ac mae bellach yn “edrych ymlaen” at fynd i Brifysgol Caerwysg i astudio’r Gyfraith.
“Roedd e’n ocê, ond roedd gymaint o’r cyd-destun o’n i angen dysgu yn drwm,” meddai.
Roedd Melony, sy’n mynd yn ei blaen i astudio’r Gymraeg ac Addysg yng Nghaerdydd, yn wên o glust i glust wrth iddi ddweud bod ei chanlyniadau’n “dda” a’u bod nhw wedi mynd sut roedd hi wedi “disgwyl iddyn nhw fynd” – er bod yr arholiadau eu hunain wedi bod yn “anodd”, meddai.
Bydd Rhys yn mynd yn ei flaen i astudio Peirianneg Dylunio yng Ngholeg Imperial yn Llundain, ac mae’n dweud ei fod yn “hapus dros ben”.
Dywed ei fod wedi bod yn “poeni a meddwl lot dros y misoedd diwethaf”, ond ei fod bellach “yn edrych ymlaen at y cam nesaf”.
O safbwynt yr arholiadau eu hunain, dywed ei fod “yn ocê” efo pob dim, a bod “arholiadau wastad yn mynd i fod yn amser sy’n achosi straen”.
Dywed ei bod hi wedi gwneud “mwy o adolygu” nag y dylai hi fod wedi’i wneud, er mwyn sicrhau ei bod hi’n cael y graddau gorau.
Dywed fod ei chanlyniadau wedi bod “yn dda”, oedd yn “syndod” iddi ar ôl noson o ddiffyg cwsg oherwydd ei nerfau.
Ond dydy hi ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd ei cham nesaf yn y byd addysg.
“Fi ddim yn gwybod be’ fi eisiau gwneud, felly fi’n cymryd blwyddyn allan,” meddai.
‘Balch’
Mae Iwan Pritchard, Pennaeth Ysgol Bro Edern, yn falch o berfformiad y disgyblion eleni.
“Wel, oeddwn i ddim yn rhy siŵr be’ i ddisgwyl y bore ma, ond mae Blwyddyn 13 yn hapus iawn gyda’u canlyniadau, ac yn gyffredinol maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda,” meddai wrth golwg360.
Ychwanega ei fod “yn falch o ganlyniadau pob un ohonyn nhw”, a’u bod nhw i gyd yn barod i fynd i’r cam nesaf.
Wrth ymateb i’r newid strwythur yn yr arholiadau eleni, dywed Iwan Pritchard mai’r “diffyg sicrwydd” oedd y peth mwyaf anodd i ymdopi ag o.
“Roedd diffyg sicrwydd o ran be’ i ddisgwyl efo’r canlyniadau, a ddim yn hollol ymwybodol o’r gweithdrefnau a sut oedden nhw’n mynd i effeithio’r canlyniadau eleni,” meddai.
Mae Iwan Pritchard hefyd yn canmol y system addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, yn enwedig i’r disgyblion oedd wedi ymuno yn hwyr trwy’r system drochi.
“Mae’r ffaith eu bod nhw wedi para drwy’r system ac wedi cael Lefel A ar ôl saith mlynedd yn hytrach nag ar ôl 14 yn glod i’r system addysg Gymraeg o fewn sir Caerdydd,” meddai.
Ychwanega ei fod yn “mawr obeithio y bydd y llwyddiant yna yn parhau ac y bydd addysg Gymraeg yn parhau i ffynnu yn y ddinas.”