Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl nifer uchel o ymwelwyr yng Nghoedwig Niwbwrch a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Maen nhw’n gofyn i bobol sy’n bwriadu ymweld â’r safle gynllunio a pharatoi ymlaen llaw.

Bydd tebygolrwydd o beidio â gallu cael mynediad i’r safle gyda char yn ystod cyfnodau prysur.

Mae gofyn i’r rhai sy’n ymweld gynllunio ymlaen llaw, ystyried tagfeydd traffig, a pharchu’r gymuned a’r amgylchedd lleol.

Treialu mesurau ychwanegol

Mae mesurau ychwanegol yn cael eu treialu ym mhentref Niwbwrch i helpu i reoli tagfeydd traffig ar yr A4080 a lliniaru’r effeithiau ar bobol leol.

Y nod yw galluogi traffig i lifo’n fwy rhwydd drwy’r pentref, yn ogystal â chyfyngu ar y mynediad i’r ffordd gul at y safle, a rhoi gwybod am draethau eraill yn yr ardal pan fydd y maes parcio yn llawn.

Y gobaith yw y bydd yr arbrawf yn cyfrannu at gynlluniau mwy hirdymor i reoli problemau traffig a mynediad yn Niwbwrch a’r cyffiniau yn y dyfodol.

Mae pobol yn cael eu hatgoffa hefyd i fynd â sbwriel adref gyda nhw, i beidio â chynnau tân, i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol, ac i beidio ag achosi difrod neu aflonyddwch.

Dywed Justin Hanson, arweinydd Tîm Pobol a Lleoedd Gogledd-orllewin Cymru, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn “disgwyl i’r niferoedd uchel o ymwelwyr sydd wedi’u gweld eisoes yn Niwbwrch barhau, yn enwedig ar benwythnosau a phan fydd y tywydd yn braf”.

“Mae’r mewnlifiad o gerbydau yn achosi tagfeydd drwy’r pentref ac yn golygu bod y maes parcio’n llenwi yn fuan ar ôl agor,” meddai.

“At hynny, am fod ymwelwyr yn aml yn aros drwy’r dydd, mae hi’n llawer llai tebygol y caiff ymwelwyr eraill fynediad i’r safle.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol ystyried cynllunio eu hymweliad ar wahanol adegau neu ystyried un o’r nifer o draethau a chyrchfannau gwych eraill ar Ynys Môn.”

Bydd wardeiniaid yn patrolio safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod yr haf, ac yn fwy na parod i ateb gwestiynau a chynnig arweiniad i ymwelwyr.

Does gan ymwelwyr ddim hawl i aros dros nos ar safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn a’r gymuned leol i edrych ar faterion rheoli traffig a mynediad tymor hir yn Niwbwrch a’r cyffiniau.

Pobol leol yn dweud eu dweud

Yn gynharach eleni, cafodd gweithdy ei gynnal er mwyn trafod y broblem.

Daeth pobol leol, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd, a daeth amryw o awgrymiadau i law.

Ymhlith yr awgrymiadau roedd syniadau ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir, gan gynnwys:

  • newidiadau i brisiau’r meysydd parcio
  • ystyried opsiynau amgen ar gyfer parcio
  • gwella mynediad ar lwybrau troed ac ar feic
  • newidiadau i ddulliau rheoli traffig ar y safle ac o’i gwmpas.

Gobaith Cyfoeth Naturiol Cymru yw siarad â’r cyhoedd eto yn y dyfodol er mwyn casglu rhagor o farn.