Ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, daeth i’r amlwg fod gan Gymru y ganran leiaf o geisiadau o blith gwledydd y Deyrnas Unedig i fynd i’r brifysgol (33.8% yng Nghymru o gymharu â 41.9% drwy’r Deyrnas Unedig gyfan).

Ond yn groes i’r patrwm, yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, mae 92% o fyfyrwyr Blwyddyn 13 wedi gwneud cais i fynd i’r brifysgol, ac mae canlyniadau’r arholiadau’n argoeli’n dda wrth iddyn nhw geisio gwireddu’r freuddwyd.

Mae’r 8% arall yn mynd yn eu blaenau i fyd gwaith neu i brentisiaeth.

Yn ôl Catrin Pritchard, prifathrawes yr ysgol oedd yn dal wrthi’n gwirio’r ffigyrau terfynol wrth siarad â golwg360, roedd criw’r Chweched Dosbarth eleni’n “griw arbennig o dda ac aeddfed”.

“Wrth gwrs, mae yna heriau wedi bod, ac mae rhan o’u haddysg nhw wedi ei heffeithio, ond maen nhw wedi bownsio ’nôl yn arbennig o dda,” meddai.

“Mae eu hagwedd nhw tuag at y gwaith wedi bod yn wych.

“Er enghraifft, hefo’r BAC (Bagloriaeth Cymru), roedden nhw’n awyddus i wybod sut i gael y graddau da ynddi”.

“Ac er ein bod ni wedi gweld canlyniadau da yn 2023, maen nhw hyd yn oed yn well y tro yma, a hynny ymhob indicator.”

Y myfyrwyr

Cafodd 36 o ddisgyblion Blwyddyn 13 Ysgol Morgan Llwyd eu canlyniadau heddiw, ynghyd â’r sawl ym Mlwyddyn 12 oedd yn cael eu graddau ar gyfer eu blwyddyn gyntaf.

Roedd coridorau a gofodau tu hwnt i adeilad y ‘Chweched’ yn fwrlwm o bobol ifanc a rhieni, wrth i’r amlenni hollbwysig gael eu hagor, a’r darnau o bapur tu fewn iddyn nhw’n cael eu darllen a’u dehongli.

Un o’r myfyrwyr hynny, sy’n wyneb cyfarwydd ym myd pêl-droed erbyn hyn, yw Lili.

Mae hi’n chwarae i dîm menywod Wrecsam, ac mae hi wedi bod ar ein sgriniau teledu yn y ddwy raglen ddogfen am hanes y clwb dan ofal Rob McElhenney a Ryan Reynolds.

Lili Jones

“Dw i wedi gwneud lot well nag oeddwn i yn meddwl,” meddai.

“Dw i wedi cael tri A a C, so hapus iawn hefo hynna.”

“Ges i C yn Ffiseg, A yn Addysg Gorfforol, A yn Gymraeg, ac A yn y BAC, so hapus iawn.

“Dw i’n mynd i astudio Cymraeg ym Mangor.”

Wrth drafod ei chynlluniau pêl droed yn y cyfnod nesaf hwn, dywed y bydd hi’n dal i chwarae.

“Dw i wedi seinio contract hefo Wrecsam am ddwy flynedd rŵan, so fydda i’n trafaelio rhwng Bangor a Wrecsam yn chwarae a, gobeithio, yn cael gradd hefyd yn y Gymraeg.

“Fydda i’n mynd i fyw ym Mangor, cael bach o uni life tra dw i yna ynde, ond fydda i’n trafaelio ’nôl a ’mlaen wedyn, ar gyfer training a ballu.

Kaelin

Roedd Kaelin yn hapus gyda’i chanlyniadau – A* yn y Fagloriaeth, ac A mewn Cemeg a Bioleg.

“Dw i’n mynd i Brifysgol Bryste i astudio Milfeddygaeth,” meddai.

“O oed ifanc, dw i wedi eisiau bod yn filfeddyg, oherwydd dwi’n hoffi anifeiliaid a wnes i wythnosau o brofiad gwaith yn ‘Vets for Pets’ ym Mlwyddyn 11, a wedyn wnes i jyst dechrau gwneud mwy o brofiadau, a wedyn wnes i jyst gwneud cais ym mis Medi.”

Carys ac Isobel

Cafodd Isobel B mewn Seicoleg a B yn y Fagloriaeth, ac A mewn Addysg Gorfforol a Chelf.

“Dw i’n mynd i Brifysgol Caerdydd i wneud Occupational Therapy,” meddai.

“Dw i’n hoffi Caerdydd, dw i wedi bod ac mae’n dda i chwaraeon hefyd.

“Dw i’n hoffi athletau, a mae ganddyn nhw good set up, ac mae’r cwrs wedi rancio’n uchel yn fan’na.”

Hefo hi roedd Carys, sy’n mynd i Brifysgol Aberystwyth ym mis Medi i wneud cwrs Gwyddorau Amgylcheddol ar ôl cael B a dwy C.

“Dw i’n excited!” meddai.

“Dw i wedi cael y graddau heddiw, ond dw i wedi gwneud exam mewnol i mi gael [cynnig] unconditional yn mis Mawrth.

“Oedd o’n neis cael yr opsiwn, so oedd o’n stress-free – tan heddiw!

“Mae Aber yn gwneud o ac mae Bangor yn gwneud o, a wedyn maen nhw jyst yn arholiadau sy’n gwneud fatha dau gwestiwn hir ti jyst yn ateb nhw – maen nhw’n hawdd i ateb, so dw i’n dweud wrth bawb fydde fo’n dda iddyn nhw wneud nhw flwyddyn nesa’.”

Eleri

Roedd Eleri yn hapus iawn hefo’i graddau, meddai, ar ôl cael A, B ac C mewn Cymraeg, Seicoleg a’r Fagloriaeth.

“Dw i’n mynd i wneud Cymraeg yn Aberystwyth,” meddai am ei chynlluniau ar gyfer mis Medi.

“Wnaeth [Prifysgol Aberystwyth] roi teimlad rili cynnes a chroesawgar i fi pan wnes i fynd yna.

“Ac roeddwn i’n rili hoffi’r Adran Gymraeg a’r holl ddarlithwyr oedd yna, felly ie, o’n i jyst yn teimlo’n rili cartrefol yn rhywle do’n i heb dreulio lot o amser.”

Ac mae’n siŵr fod cael mynd i astudio ar lan y môr yn apelio hefyd?

“Oedd, chwarae teg,” meddai.

“Mae’n ardal rili prydferth, a jyst yn teimlo’n neis ac yn gartrefol pan o’n i yna.

“Mi wnes i gyfarfod Mererid Hopwood tra o’n i yna, ac mi roedd hi’n neis.”

Ffion ac Anya

Cafodd Anya dair A* ar ôl bod yn astudio Mathemateg, Ffiseg, a’r Fagloriaeth, ac A mewn Cemeg.

Mae hi’n mynd yn ei blaen i Brifysgol Manceinion i astudio Ffiseg.

“Roeddwn i’n gwybod ro’n i eisiau astudio Ffiseg fel cwrs, ond dw i wedi edrych ar-lein i weld pa brifysgolion oedd y gorau ar gyfer Ffiseg, a wedyn dw i wedi edrych arnyn nhw i gyd, ac roeddwn i jyst yn gwybod pan dw i wedi mynd i weld Manceinion taw dyna ble oeddwn i eisiau mynd,” meddai.

“Dw i wedi bod i’r ddinas o’r blaen, felly dwi’n gwybod ble dw i’n mynd, ac mae’n ddigon agos – digon pell i ffwrdd bo fi ar ben fy hun, ond dw i’n ddigon agos i ddod adref, a chael mam i wneud y washing!”

Roedd Anya yn dathlu ei graddau gyda’i ffrind Ffion.

“Dw i’n mynd i Fanceinion hefyd i wneud Biomedical Sciences,” meddai.

“Dw i wedi cael tair A mewn Bioleg, Cemeg a Seicoleg.

“Dw i’n rili hapus ac yn edrych ymlaen i fynd gyda ffrind fi; fydd hynny’n be’ roedden ni eisiau gwneud – mynd gyda’n gilydd.

“Ryden ni’n gwybod fod Manceinion yn brifysgol rili dda, ac oedd hynny’n lle o’n ni eisiau mynd o’r dechrau, felly rili hapus i gyflawni be’ o’n ni eisiau gwneud.

“Ryden ni wedi rhoi’r un accommodation i lawr.”

Mae’r ddwy yn hapus i astudio eu pynciau, ac yn edrych ymlaen i weld beth sydd i ddod yn ystod y tair blynedd nesaf.

Ond o ran gweddill y dydd heddiw, maen nhw’n bwriadu ymlacio.

“Dw i am fynd i Hickory’s i gael ‘pancake stack’!” meddai Anya.

“Dw i am fynd i Starbucks, cael hoff goffi fi a wedyn jyst ymlacio am weddill y dydd,” meddai Ffion. “A wedyn mynd allan am fwyd gyda Dad heno, fel teulu.”

Anya hefo’i theulu

Roedd rhieni Anya yn aros amdani yng nghyntedd yr adeilad, a dywedodd ei thad ei fod yn “teimlo’n ffodus iawn”.

“Mae hi wedi gweithio’n galed iawn, so mae wedi cael canlyniadau da, so ni jyst yn teimlo’n falch,” meddai.

Mae ei mam “yn browd iawn”, meddai.

“A jyst yn falch o’r gefnogaeth mae hi wedi’i chael gan yr athrawon hefyd, yn enwedig Mr Pemberton, yr athro Ffiseg.

“Pan oedd hi yn yr ysgol gynradd, roedd hi eisiau bod yn astrophysicist, ond wnaeth hi newid ei meddwl pan ddaeth i’r ysgol, ym Mlwyddyn 10.

“Wnaeth hi ddechrau TGAU Ffiseg hefo Mr Pemberton a… beth wnaeth o ddweud wrthat ti Anya?”

“Ar ôl yr arholiad cyntaf, roeddwn i’n meddwl, ‘Mae Ffiseg yn ffiaidd, pam fod pobol yn ei wneud e?’ Ond daeth o fyny ataf a dweud, ‘Anya, you’re a physicist’.”

“A felly, ar ôl hynna, meddyliais, wel, dw i’n mynd i drio a wnes i rili fwynhau.”

“So, mae o i gyd lawr i Mr Pemberton,” ychwanegodd ei mam.

“Ac rydan ni’n falch ei bod hi’n mynd i Fanceinion – yn agos, a hefyd dyna oedd hi eisiau.”

Tryfan Jones, Gethin Morris Lloyd, Cynan Jones, Iwan Phillps

Cafodd Iwan A, B, C a D, ac mae’n mynd yn ei flaen i Gaerefrog i wneud ffisiotherapi.

“Wnes i Hanes, Addysg Gorfforol a Bioleg, a’r Bac hefyd,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn awyddus i helpu pobol eraill drwy wneud ffisiotherapi, “a dod â nhw ’nôl at wneud be’ maen nhw’n ei hoffi ar ôl anaf.”

B, dwy D ac E gafodd Gethin o Langollen, ar ôl astudio’r Fagloriaeth, Daearyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Hanes, ac mae’n bosib y bydd yn dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth neu yn y cyfryngau.

“Dw i newydd cael B, D, D, E, yn y bac, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes”.

“Dw i’n mynd i wneud Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth.

“Dw i’n hoffi gwrando ar newyddion gwleidyddol, so rhywbeth hwylus i fi.”

Cafodd Tryfan Jones o Benycae A mewn Addysg Gorfforol, B mewn Hanes a’r Fagloriaeth, ac C mewn Ffiseg.

“Dw i’n teithio flwyddyn nesaf, a’r flwyddyn ar ôl hynna dw i’n gobeithio mynd i’r brifysgol – gobeithio i Loughborough i wneud Technology.”

Rhieni balch

Un rhiant balch yn yr ysgol heddiw oedd Geraint Phillips o Rosllannerchrugog.

“Dwi’n hapus iawn bod fy mab Iwan wedi cael ei ddewis cyntaf o brifysgol,” meddai.

“Mae o wedi gweithio’n galed ac roedd o ar ddiwedd Blwyddyn 9 pan wnaeth Covid daro, so dyma ydi’r asesiad cyntaf maen nhw wedi’i gael sydd heb fod hefo unrhyw fath o addasiad ar gyfer Covid.

“Felly dw i’n falch fod o a gweddill y criw wedi gwneud mor dda, rili.

“Diwrnod nhw ydi o, rili, yn hytrach na ni, felly jyst aros o gwmpas fydda i i weld os ydi o eisiau dod adre hefo ni neu os ydi o yn mynd efo ffrindiau i rywle, so aros am yr ordors pellach, ynde!”

Myfyrwyr Blwyddyn 12

Nyah a Gethin

Roedd nifer o ddisgyblion Blwyddyn 12 yn yr ysgol i gasglu eu canlyniadau Uwch Gyfrannol hefyd.

Yn eu plith roedd Gethin a Nyah.

“Ges i B mewn Seicoleg, a wedyn tair A mewn Mathemateg, Cemeg a Ffiseg,” meddai Gethin.

“Dw i’n mynd i’r brifysgol i wneud Ffiseg, gobeithio – Caerdydd ar y funud.”

Ond dywed ei fod yn dal i ystyried ei holl opsiynau.

Mae Nyah yn gobeithio aros yn Wrecsam i fynd i’r brifysgol.

“Dw i wedi cael D mewn Seicoleg, E mewn Bioleg, ac C mewn Iechyd a Gofal,” meddai Nyah.

“Dw i eisiau mynd i’r brifysgol i wneud Paediatrics. Nyrsio Paediatrics hefo plant.”

Ond cyn hynny, roedd y ddau yn bwriadu mynd allan i “gael hwyl”, medden nhw.

Llongyfarchiadau

“Maen nhw wedi datblygu sgiliau yn ogystal â chael y cymwysterau,” meddai Catrin Pritchard.

“Maen nhw wedi gweithio’n dda gyda’r staff ac yn ymddiried hefo’r staff.

“Mae’r staff yn nabod y disgyblion ac wedi eu helpu nhw, nid yn unig i gyflawni’r cyrsiau ond hefyd i fod yn lifelong learners.”