Dywed Trafnidiaeth Cymru fod y gwasanaeth gafodd ei gynnig ganddyn nhw yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf “yn flas o’r hyn sydd i ddod”.
Dywed Lowri Joyce, sy’n swyddog gyda Thrafnidiaeth Cymru, fod yr Eisteddfod wedi “rhoi bach mwy o hyder” i’r gweithredwr eu bod nhw’n gallu “chwarae rhan fwy” yn y Brifwyl yn y dyfodol.
Yn dilyn gwasanaeth llwyddiannus Trafnidiaeth Cymru i mewn ac allan o Bontypridd yn ystod yr Eisteddfod, bu golwg360 yn siarad â Strategydd Iaith Gymraeg y cwmni trenau.
Yn ôl ystadegau Trafnidiaeth Cymru, roedd y gwasanaeth trên yn gyfrifol am gludo 100,000 o deithwyr i mewn ac allan o Bontypridd drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Yn ogystal â hynny, mae’r gweithredwr wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwasanaethu 160,000 o bobol yn ystod digwyddiadau yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, megis cyngherddau Taylor Swift a Billy Joel.
Daw’r newyddion ar ôl blynyddoedd o sylw negyddol i wasanaethau trenau yng Nghymru, gyda nifer yn dewis teithio yn eu ceir yn hytrach nag ar drenau ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol fel gwylio’r tîm pêl-droed yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Blwyddyn o waith cynllunio
Dywed Lowri Joyce fod “blwyddyn o waith cynllunio” ar gyfer digwyddiadau fel yr Eisteddfod, er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaeth addas i gludo ymwelwyr mewn ffordd amserol a diogel.
“Efo’r Eisteddfod, mae o ychydig bach yn unigryw achos mae’n ddigwyddiad wyth diwrnod a mwy,” meddai wrth golwg360.
“Hefyd, mae cynulleidfa’r Eisteddfod ychydig bach yn wahanol achos ti efo pawb yn mynd – teuluoedd, pobol ifanc sydd yn cael mynd i ffwrdd ar ben eu hunain am y tro cyntaf, a ballu.
“Efo digwyddiad stadiwm, mi wyt ti’n gwybod mwy neu lai pryd fydd pawb i mewn, a pryd fydd pawb allan, ond efo’r Eisteddfod mae o’n symudiad cyson gydag amserau penodol prysur.
“Beth wnaethon ni oedd cychwyn y sgwrs efo Betsan Moses [Prif Weithredwr yr Eisteddfod] ym Moduan haf diwethaf.”
Cynnig gwyrdd a threfniadau eraill
Cafodd Lowri Joyce gyfarfod â Betsan Moses a James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, er mwyn cynllunio cynnig “gwyrdd” i deithwyr.
“Yn dilyn hyn, roedd gennym ni gyfarfodydd rheolaidd efo Cyngor Rhondda Cynon Taf, Betsan a phobol sydd yn cynllunio amserlenni,” meddai wedyn.
“Y peth oedd yn bwysig oedd cadarnhau pwy [o’r awdurdodau] oedd yn gyfrifol am beth, a hynny er mwyn osgoi sefyllfa o sefyll ar draed ein gilydd a gwneud yn siŵr fod yna ddim ailadrodd gwaith.”
Yn ystod yr wythnos, fe fu’r awdurdodau ar y Maes yn cyfathrebu â’i gilydd ac wrth reoli’r rheilffyrdd i wneud yn siŵr bod gwybodaeth glir a chyson yn dod i ymwelwyr ar y maes.
Ychwanega Lowri Joyce fod y systemau ciwio hefyd wedi bod “yn bwysig” er mwyn “sicrhau diogelwch”.
I unrhyw ymwelwyr gyrhaeddodd y Brifwyl ar drên yr wythnos ddiwethaf, roedd system un ffordd i wneud yn siŵr nad oedd pobol yn cerdded i mewn i’w gilydd yn yr orsaf.
Ailadrodd ansawdd y gwasanaeth yn genedlaethol
Y cwestiwn i nifer o deithwyr rheolaidd ar Drafnidiaeth Cymru yw a fydd y gwasanaeth hwn yn gallu cael ei ailadrodd ledled Cymru.
“Beth rydyn ni’n ei ddweud wrth bobol ydi cynllunio o flaen llaw bob tro, ac i beidio cychwyn siwrne yn ddall,” meddai Lowri Joyce.
“Mae gennym ni’r gwasanaethau yma ar-lein neu’r desgiau bwcio sydd yn dweud yn union pryd mae’r gwasanaethau yn rhedeg, sut i fynd o un gwasanaeth i’r llall – mae o’n rhoi darlun da o’r siwrne.
“Y ffordd dw i’n ei ddisgrifio fo ydi, mae o fel mynd i hedfan, yn yr ystyr dydych chi byth yn troi fyny yn ddall.
“Ti efo dy docyn a beth bynnag o flaen llaw, ti wedi checio’r terminal.
“Dw i’n dweud, trïwch wneud yr un peth efo trafnidiaeth gyhoeddus.”
Er bod y pwyslais ar deithwyr, dywed Lowri Joyce ei bod yn gobeithio am “wasanaeth troi i fyny a mynd” yn y dyfodol, yn enwedig yn y Cymoedd.
“Mae’r gwasanaethau ychwanegol â’r trenau gwell yma yn flas o beth rydan ni’n rhoi yn ei le ar hyn o bryd, felly wneith pethau ond gwella.
“Yn y diwedd, yn enwedig yn y Cymoedd, mi fydd hi’n bosib cael gwasanaeth troi fyny a mynd cyn bo hir, ond ar hyn y bryd be’ faswn i’n ei ddweud ydi cynllunio o flaen llaw.
“Mae pethau am wella, ac mae hwn [gwasanaeth yr Eisteddfod] yn flas o beth sydd i ddod.”
“Awyddus i wneud yr un peth” yn Wrecsam
Wrth drafod yr Eisteddfod yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, dywed Lowri Joyce fod Trafnidiaeth Cymru’n “awyddus i wneud yr un peth”, neu o leiaf yn “fersiwn o’r un peth”, yn ddibynnol ar leoliad y Brifwyl yn 2025.
“Dw i wedi dechrau sgwrsio efo Cyngor Wrecsam, ac o beth dw i’n ddeall, dydi’r lleoliad ddim wedi cael ei benderfynu eto,” meddai wedyn.
“Y munud rydan ni’n gwybod hynny, mi wneith hynny alluogi ni i ddechrau’r modelu trafnidiaeth a deall yn union beth sydd ar gael a lle mae’r gaps.
“Mae’r Eisteddfod yma wedi rhoi bach mwy o hyder i ni ein bod ni’n gallu chwarae rhan fwy mewn Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf yma.”