Am flynyddoedd lawer, Caws Mawr oedd un o wyliau mwyaf tref Caerffili ond roedd hynny cyn i’r Caws Bach gymryd y fantell honno yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Eleni, mae’r ddwy wedi cael eu disodli gan Ŵyl Gaws Caerffili.

Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod y digwyddiad eleni’n cynnwys canol tref Caerffili i gyd, gan gynnwys y tu ôl i’r castell.

Yn ogystal â llu o gwmnïau caws, fe fydd gan fusnesau amrywiol stondinau yno er mwyn gwerthu eu cynnyrch.

Gŵyl “bwysig” i Gaerffili

Mae Gwen Davies yn rhedeg ei busnes celf a cholur ei hun, sef Gwen Davies Art and Henna.

Mae hi’n hyderus y bydd yr ŵyl yn arwain at hwb i’w busnes hi ac i fusnesau eraill y dref.

Mae’r ŵyl “yn bwysig iawn” i Gaerffili, meddai.

“Mae’n hawdd anghofio pa mor lyfli yw Caerffili, ac mae’n dod â mwy o ymwelwyr i’r ardal,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n marchnata ar-lein, ac mae gen i nifer o gwsmeriaid yn ardal Caerffili, felly gall yr ŵyl arwain at fwy o farchnata ar-lein.”

Mae hi hefyd yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn arwain at ragor o gwsmeriaid yn y tymor hir.

“Mae’r digwyddiad yn helpu i adeiladu busnesau lleol i fyny,” meddai.

“Dw i wedi lleoli yn yr un lle fel arfer, felly bydd pobol yn dod i fy ffeindio i.”

Mae’r ŵyl yn cynhyrfu Gwen, nid yn unig o ran denu cwsmeriaid, ond ar lefel bersonol hefyd.

“Rydym yn mynychu digwyddiadau ym Mae Caerdydd, ond dim byd fel hwn,” meddai wedyn.

‘Angenrheidiol’

Yn ôl Sian Evans o Sian’s Emporium, siop arall fydd yn gwerthu yn yr ŵyl, mae’r digwyddiad yn bwysig nid yn unig i Gaerffili, ond i dde Cymru i gyd.

“Mae ymwelwyr a masnachwyr yn gweld yr ŵyl fel digwyddiad angenrheidiol,” meddai wrth golwg360.

“Er ei bod yn llai nawr o ganlyniad i gyfyngiadau i’r ardal, unwaith mae’n tyfu eto bydd hi’n ôl i’w huchafbwynt.

“Fydd effaith y digwyddiad i’w gweld nid yn unig o fewn y dref, ond o fewn y sir a de Cymru gyfan.

“Bydd gwestai, bwytai, ac wrth gwrs cyfanwerthwyr sy’n gwerthu i fasnachwyr y digwyddiad yn buddio.”

“Yn y gorffennol, mae gwyliau fel y Caws Mawr wedi arwain at effaith gadarnhaol yn yr hirdymor, ac mae hi’n sicr y bydd yr Ŵyl Gaws yn cael yr un effaith.

“Yn barod, o ganlyniad i’r arian o’r ŵyl yma – ac eraill – rydym wedi gallu recriwtio artist anabl – rhywun oedd yn ffeindio’r gweithle’n anodd.

“Mae hanes a data yn dangos bod ein cwsmeriaid rheolaidd yn dod ’nôl atom, wrth inni hefyd ddenu cwsmeriaid newydd ar yr un pryd yn ystod gwyliau fel hyn, o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni’n credu yn yr un gwerthoedd â’n cwsmeriaid – positifrwydd, cymeriad arbennig, a chynnyrch gwych am brisoedd gwych.”

Mae Siân Evans yn teimlo y gallai’r ŵyl arwain at newidiadau cymdeithasol hefyd.

“Heddlu Gwent, sydd heb gael y canfyddiad cyhoeddus gorau yn ddiweddar, yw un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn y digwyddiad, gyda phobol, hen ac ifanc, yn tynnu lluniau ac yn siarad gyda nhw.

“Yn sicr, bydd hyn yn arwain at welliant cymdeithasol yn y tymor hir ac yn chwalu’r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn rhwystrau artiffisial.”

Disgwyliadau’r Cyngor Sir

Caerffili

Faint o effaith mae’r Cyngor Sir yn disgwl i’r Ŵyl Gaws ei chael ar dref Caerffili, felly?

“Mae Gŵyl Caws Caerffili yn dod â miloedd o ymwelwyr o ardaloedd lleol ac ymhellach i ffwrdd, gan roi’r cyfle iddyn nhw edrych o gwmpas canol y dref a darganfod y dewis gwych o fwytai, tafarndai, a siopau stryd fawr ac annibynnol,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Mae busnesau yn ffynnu o ganlyniad i’r ŵyl, ac mae’n rhoi Caerffili ar y map fel ardal i ymweld ac i ddychwelyd iddi.

“Wedi Covid, mae digwyddiadau fel yr ŵyl wedi golygu achubiaeth i drefi yn Sir Caerffili, gan arwain at ymwelwyr yn gwario arian yn ein busnesau.

“Nid yw’r Ŵyl Gaws yn eithriad, ac mae’n bwysig iawn i ganol Caerffili, nid yn unig i fusnesau, ond i’r gymuned leol hefyd.”

Mae’r Cyngor yn hyderus y bydd yr ŵyl yn arwain at hwb enfawr i’r economi leol hefyd.

“Mae’r Ŵyl Gaws – Caws Mawr yn y gorffennol – wastad wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i Gaerffili a’r economi lleol, yn dod â nifer o bobol i mewn i’r ardal, gan gynnwys teithiau bws,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r arian sy’n cael ei wario yn rhoi hwb i fusnesau lleol, nid yn unig y rheini yn y dref, ond hefyd i fusnesau sy’n dod o’r tu fa’s i’r ardal i fasnachu yn ystod y digwyddiad.

“Bydd nifer o fusnesau yn cynnal digwyddiadau ychwanegol yn ystod yr ŵyl, gan eu bod nhw’n deall y bydd y cynnydd mewn ymwelwyr o fudd iddyn nhw.”

Mae’r Ŵyl Gaws wedi’i hariannu’n rhannol gan Gyngor Tref Caerffili a Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhan o brosiect Tref Caerffili 2035.