Mae gweinidogion yng Nghymru a San Steffan wedi cytuno i gydweithio i ddiwygio’r rheilffyrdd, gwella seilwaith a darparu gwell gwasanaethau.
Mewn cyfarfod yn Llundain yr wythnos hon, fe wnaeth Ken Skates, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, a’r Arglwydd Hendy, Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, drafod blaenoriaethau Cymru i ddiwygio rheilffyrdd.
Mae’r rhain yn cynnwys creu rhaglen o welliannau i Gymru a rhoi mwy o lais i Gymru ar wasanaethau sy’n mynd o Gymru i Loegr.
Heddiw (dydd Gwener, Awst 16), mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod y gwasanaeth gafodd ei gyflwyno ganddyn nhw yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf “yn flas o’r hyn sydd i ddod”.
Yn ôl ystadegau Trafnidiaeth Cymru, roedd y gwasanaeth trên yn gyfrifol am gludo 100,000 o deithwyr i mewn ac allan o Bontypridd drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Mae Llywodraeth Lafur San Steffan wedi addo dad-breifateiddio’r rheilffyrdd.
‘Cam ymlaen’
Wedi’r cyfarfod, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ei fod e “wedi cyffroi” am gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio’r rheilffyrdd.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, ochr yn ochr â diwydiant, i lunio dyfodol disglair ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r penderfyniad yn gweld diwedd ar y system masnachfreinio rheilffyrdd, sydd wedi torri, ac yn gam ymlaen pwysig.
“Mae’n golygu y bydd gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn aros mewn dwylo cyhoeddus – gan ei gwneud yn haws i integreiddio rheilffyrdd gyda bysiau a chyflawni ein gweledigaeth o Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn.
“Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu rhaglen y cytunwyd arni ar y cyd o welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.”
‘Penderfynol o ddiwygio’
Ychwanega’r Arglwydd Hendy eu bod nhw’n benderfynol o ddiwygio’r rheilffyrdd er mwyn darparu gwell gwasanaethwyr i deithwyr a chreu strategaeth hirdymor newydd.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei blaenoriaethau ym maes trafnidiaeth a’n huchelgeisiau cyffredin ar gyfer rheilffyrdd, gan gyflawni gwelliannau i’r seilwaith ledled y wlad i hybu cyfleoedd a thwf economaidd,” meddai.