Bydd dioddefwyr y sgandal gwaed yn gallu derbyn taliadau am weddill eu hoes, a’r rhai fu’n rhan o ymchwil feddygol heb gael gwybod yn derbyn hyd at £15,000 yn ychwanegol.

Rhwng y 1970au a’r 1990au, cafodd miloedd o bobol ledled y Deyrnas Unedig eu heintio â hepatitis a HIV wrth dderbyn triniaethau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ers hynny, mae 3,000 ohonyn nhw wedi marw, a chafodd dros 400 o bobol yng Nghymru eu heintio.

Heddiw (Awst 16), mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd pobol yn dechrau derbyn taliadau cyn diwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi bod cynllun iawndal terfynol yn cael ei sefydlu ddeufis yn ôl, ac y bydd rhai o’r dioddefwyr yn derbyn taliadau o £210,000.

‘Carreg filltir bwysig’

Dywed Nick Thomas-Symonds, sy’n weinidog yn Swyddfa’r Cabinet ac yn Aelod Seneddol dros Dorfaen, bod hon yn “garreg filltir bwysig” i ddioddefwyr ac ymgyrchwyr “sydd wedi aros yn llawer rhy hir am gyfiawnder”.

“Mae’r llywodraeth wedi gwrando ar argymhellion Sir Robert Francis KC, wedi clywed galwadau cryf am newid o’r gymuned ac wedi gweithredu,” meddai.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth posib i dalu iawndal yn gyflym, ac mewn rhai achosion symiau all newid bywydau’r rhai gafodd eu heintio yn y sgandal yma.

“Rydym yn gwybod na all unrhyw iawndal wneud yn iawn am y niwed y dioddefodd pobl o ganlyniad i’r sgandal yma.

“Dyna pam y byddwn hefyd yn gwneud newidiadau diwylliannol er mwyn sicrhau na fydd dim byd fel hyn yn digwydd eto.”

Bydd rhieni wnaeth golli plant oherwydd y sgandal hefyd yn derbyn taliadau am oes.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion adroddiad annibynnol gan Sir Robert Francis ar y mater.

Gwaed

Beth yw’r sgandal gwaed a beth sydd wedi’i gynnig i’r dioddefwyr?

Elin Wyn Owen

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bod cynllun iawndal terfynol yn cael ei sefydlu ac y bydd rhai dioddefwyr yn derbyn taliadau dros dro o £210,000