Cafodd 30,000 o bobol eu heintio â hepatitis a HIV wrth dderbyn triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng y 1970au a’r 1990au, ac ers hynny mae 3,000 ohonyn nhw wedi marw.
Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi disgrifio maint y sgandal fel un “dychrynllyd”, ac wedi cyhuddo meddygon, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gwasanaeth Iechyd o esgeuluso cleifion.
Bellach, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi bod cynllun iawndal terfynol yn cael ei sefydlu ac y bydd rhai o’r dioddefwyr yn derbyn taliadau o £210,000 o’r haf ymlaen.
Beth yw gwaed heintiedig, a sut gafodd ei ddefnyddio?
Yn y 1970au, doedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddim yn gallu ateb y galw am waed. Un ffactor wnaeth achosi’r galw cynyddol oedd cyflwyno triniaethau newydd wedi’u gwneud o gynhyrchion gwaed. Daeth y Gwasanaeth Iechyd o hyd i ryw 50% o’u cynhyrchion gwaed o dramor, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, lle cafodd rhoddwyr eu talu am roi gwaed, a denodd hyn bobol o grwpiau oedd yn fwy tebygol o fod â hepatitis C neu HIV. Doedd y gwaed ddim yn cael ei sgrinio ar gyfer firysau ar y dechrau.
Yn 1975, ymrwymodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau stoc gwaed hunanynhaliol erbyn haf 1977, ond doedden nhw ddim wedi cyrraedd y nod.
Yn ogystal, roedd y Deyrnas Unedig yn cael trafferth ateb y galw am driniaethau ceulo’r gwaed, ac felly fe wnaethon nhw barhau i fewnforio gwaed.
Dim ond yn 1972 y dechreuodd gwasanaethau gwaed sgrinio ar gyfer hepatitis B, yn 1985 am HIV, ac yn 1991 am hepatitis C.
Pwy sydd wedi’u heffeithio?
Fe wnaeth hyn olygu bod llawer o gleifion y Gwasanaeth Iechyd wedi derbyn trallwysiadau gwaed heintiedig ar ôl genedigaeth, llawdriniaeth, neu drawma yn ystod y cyfnod.
Mae ymchwil yn amcangyfrif bod rhwng 80 a 100 o bobol wedi’u heintio â HIV, a thua 27,000 â hepatitis C. Pobol â hemoffilia gafodd eu heffeithio’n benodol, gan fod eu triniaeth yn cyfuno plasma gan filoedd o roddwyr, gan arwain at halogiad eang.
Cafodd tua 1,250 o bobol, gan gynnwys 380 o blant, eu heintio â HIV, a datblygodd 2,400-5,000 arall hepatitis C.
Pryd gafodd yr ymchwiliad gwaed heintiedig ei lansio, a beth oedd ei amcanion?
Ym mis Gorffennaf 2017, yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan grwpiau oedd wedi’u heffeithio, cyhoeddodd Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, ymchwiliad statudol cyhoeddus.
Dyma sut mae gwefan yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn disgrifio’i bwrpas:
“Archwilio pam gafodd dynion, menywod a phlant yn y Deyrnas Unedig waed heintiedig”, “yr effaith ar eu teuluoedd”, sut wnaeth yr awdurdodau ymateb, natur unrhyw gefnogaeth gafodd ei gynnig yn dilyn haint, a mwy.
Cafodd tystiolaeth ei chasglu rhwng haf 2018 a mis Chwefror 2023.
Beth mae adroddiad terfynol yr ymchwiliad cyhoeddus yn ei ddweud?
Yn ôl yr adroddiad, doedd diogelwch cleifion ddim wrth wraidd penderfyniadau’n ymwneud â’r mater.
Yn ôl yr adroddiad:
Ni chafodd digon ei wneud i stopio mewnforio cynnyrch gwaed o dramor.
Cafodd gwaed gan grwpiau risg uchel ei dderbyn yn y Deyrnas Unedig tan 1986.
Doedd dim digon o brofi i ostwng y risg o hepatitis o’r 1970au ymlaen.
Chafodd cynnyrch gwaed ddim eu trin â gwres er mwyn cael gwared ar HIV nes 1985, er bod y risgiau’n hysbys ers 1982.
Beth mae’r cynllun iawndal yn ei gynnig i’r dioddefwyr a’u teuluoedd a gofalwyr?
Gyda thaliadau i fod i ddechrau cyn diwedd y flwyddyn, dyma rydyn ni’n ei wybod hyd yn hyn:
Wrth siarad yn San Steffan, mae John Glen, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, wedi dweud bod cynllun iawndal terfynol yn cael ei sefydlu ac y bydd rhai dioddefwyr yn derbyn taliadau dros dro o £210,000 o’r haf ymlaen.
Bydd y taliadau yn cael eu gwneud i bobol gafodd eu heintio’n uniongyrchol, yn ogystal â phobol eraill gafodd eu heffeithio gan y sgandal, gan gynnwys partneriaid a phlant.
Mewn achosion lle mae pobol fyddai â hawl i iawndal wedi marw, bydd yr arian yn mynd i’w hystad.