Mae’r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i gynnig cefnogaeth swyddi a hyfforddiant i weithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Gallai gweithwyr golli eu swyddi ymhen ychydig wythnosau, yn dilyn penderfyniad y cwmni i gau dwy ffwrnais chwyth ar y safle – rhywbeth sydd wedi digwydd yn gynt o lawer na’r disgwyl.

Mae disgwyl i’r ffwrnais gyntaf gau ddiwedd mis Mehefin, ac mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cefnogaeth yn ei lle i weithwyr a chymunedau drwy arallgyfeirio arian sydd eisoes yn ei le i gefnogi pobol a chymunedau.

Maen nhw’n galw am benodi ymgynghorwyr cyflogaeth yn y gymuned i gydlynu a rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio, gan gynnwys gweithredu fel cysylltiadau parhaus, sefydlu canolfannau cyflogaeth a ffeiriau swyddi, rhoi swyddi sector preifat i bobol sydd â’r sgiliau priodol, ac adnabod bylchau yn y gefnogaeth.

Maen nhw hefyd yn galw am bot gwahanol o arian i’w ddefnyddio er mwyn ailhyfforddi ar sail asesiad o anghenion y gweithlu, er mwyn helpu i sicrhau cyllid pellach tu hwnt i’r hyn sydd ar gael eisoes.

Byddai rhywfaint o arian hefyd yn mynd tuag at adfywio’r ardal leol a sicrhau twf economaidd yn y dyfodol, yn unol ag amcanion y Bwrdd.

Mae gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cymru, fynediad at £100m i gefnogi gweithwyr a’r economi ranbarthol.

Mae’r Bwrdd wedi cyfarfod bum gwaith yn ystod y chwe mis ers ei sefydlu, ac maen nhw wedi sefydlu dau is-bwyllgor ond mae’r Blaid Lafur yn dweud eu bod nhw “wedi gwneud fawr ddim byd arall” a does dim arian wedi’i neilltuo ar gyfer cefnogaeth ar lawr gwlad.

Cefndir

Bydd dwy ffwrnais chwyth yn cau ym Mehefin a Medi, gan arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi uniongyrchol yn y de.

Mae adroddiad sydd wedi’i ryddhau i’r Bwrdd Pontio yn awgrymu y gallai’r ffigwr godi’n uwch o lawer – i hyd at 9,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach.

Mae Llafur eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £2.5bn ychwanegol ar ben y £500m sydd wedi’i glustnodi, pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Fe fu’r blaid yn galw ar Tata ers tro i beidio â gwneud penderfyniadau na fyddai modd eu gwyrdroi cyn etholiad cyffredinol.

Mae ymgynghoriad rhwng Tata ac undebau eisoes wedi dod i ben, ac mae’r cwmni’n benderfynol o fwrw ymlaen â’u cynlluniau i gau’r ddwy ffwrnais chwith cyn diwedd mis Medi.

‘Swyddi a chymunedau mewn perygl’

“Mae miloedd o swyddi mewn perygl ym Mhort Talbot a chymunedau dur ledled de Cymru oherwydd bod gweinidogion Ceidwadol wedi methu gweithredu, gyda sioc economaidd enfawr fydd yn atseinio am ddegawdau,” meddai Jo Stevens.

“Mae Bwrdd Pontio Ysgrifennydd Cymru’n edrych yn debycach i siop siarad.

“Bydd ein cronfa ddur yn sicrhau y bydd dyfodol y diwydiant yn cael ei danio gan sgiliau, doniau ac uchelgais gweithwyr dur Cymreig, ac rydyn ni wedi dweud droeon na ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau di-droi’n-ôl cyn etholiad cyffredinol.

“Dydy Llafur ddim eisiau gweld yr un swydd yn cael ei cholli o’r safle, ond rhaid i weinidogion Ceidwadol berfformio’n well a pharatoi’n gynt o lawer er mwyn gwarchod gweithwyr a chymunedau.

“Mae ein sicrwydd swyddi, cefnogaeth a hyfforddiant yn rhoi sicrwydd i weithwyr y byddwn ni’n eu cefnogi nhw, doed a ddel.”