Wedi i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ddod i ben yn gynnar, bydd rhaid i Blaid Cymru ailystyried eu rôl, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.
Fe wnaeth Plaid Cymru ddod â’r Cytundeb i ben ddydd Gwener (Mai 17), gan ddweud bod ganddyn nhw bryderon gan nad ydy Vaughan Gething wedi ad-dalu’r rhodd o £200,000 dderbyniodd yn ystod y ras arweinyddol gan gwmni gŵr oedd wedi cyflawni troseddau amgylcheddol.
Ers i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wneud y cyhoeddiad ddydd Gwener (Mai 17), mae aelodau o gabinet Vaughan Gething wedi ei amddiffyn.
Mae’r Prif Weinidog wedi bod dan bwysau ers diswyddo’i Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol gan honni ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i’r cyfryngau.
Mae Hannah Blythyn yn gwadu’r honiadau yn ei herbyn, ond mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi dweud bod “tystiolaeth” i gefnogi penderfyniad Vaughan Gething.
Dros y penwythnos, dywedodd Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, fod angen i’r rhai sy’n beirniadu’r Prif Weinidog ofyn “a ydw i’n mynd rhy bell?”
Ar ôl cyfarfod Cabinet nos Wener, wedi i’r newyddion dorri am ddiwedd y Cytundeb Cydweithio, dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, fod y cabinet yn “gwbl unedig”.
‘Tir gwleidyddol ansicr’
Yn ôl Theo Davies-Lewis, yr hyn sy’n syndod ydy cyflymder y digwyddiadau a pha mor sydyn ddaeth y Cytundeb Cydweithio i ben.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl i bopeth ddigwydd mor gyflym,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n rhaid i ni gofio bod y strategwyr gwahanol ym Mhlaid Cymru wedi gweld cyfle, yn eu llygaid nhw, i roi niwed i’r Prif Weinidog oedd dan bwysau’n barod.
“I raddau, mae Plaid Cymru wedi chwarae hwn yn eithaf da yn dactegol achos roedden nhw’n eithaf clir pan ddaeth Vaughan Gething mewn i’r swydd bo nhw ddim yn galw arno fe i ymddiswyddo oherwydd yr arian yn ystod y ras arweinyddiaeth, ond roedd Rhun ap Iorwerth yn glir fod hi ddim yn sefyllfa oedd yn gallu parhau yn yr hirdymor.
“Dydyn ni ddim wedi gweld y fath beth o’r blaen yng ngwleidyddiaeth Cymru, dw i ddim yn credu, felly efallai bod e’n dangos i chi pa mor glinigol mae Plaid Cymru’n gallu bod – a dydyn ni byth wedi dweud hynny o’r blaen chwaith, dw i ddim yn credu.”
Ychwanega fod y Cytundeb wedi creu “rôl eithaf clir” i Blaid Cymru ers 2021, o ystyried mai nhw yw’r drydedd blaid fwyaf yn y Senedd ers etholiad y flwyddyn honno.
“Os fydd [eu rhan yn y Cytundeb Cydweithio] yn newid eu sefyllfa nhw o ran etholiadau, bydd rhaid i ni weld.
“Mae rhaid i ni roi amser i Rhun ap Iorwerth sefydlu ei hun yn y rôl; daeth e mewn i’r sefyllfa yma ym Mhlaid Cymru, oedd yn eithaf pryderus yn ei hunan – y trafferthion oedd yn y blaid ar ôl yr ymchwiliad Prosiect Pawb.
“Nawr bod e wedi cael gwared ar y Cytundeb, bydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’r Blaid yn cyflwyno’u hunain i’r cyhoedd.
“Dw i’n credu bod y tir gwleidyddol yn eithaf ansicr ar y funud yng Nghymru.
“Dyw sefyllfa’r Prif Weinidog ddim yn glir yn yr hirdymor, a dw i’n credu bod rhaid i Blaid Cymru ddangos eu bod nhw’n barod i ymateb i ddigwyddiadau fel maen nhw’n symud.
“Dw i’n credu eu bod nhw wedi dangos hynny’n barod, ond mae gyda nhw’r drafferth nawr o greu rôl newydd yn y tir gwleidyddol yma o gymharu efo’r Ceidwadwyr.”
Rôl y gwrthbleidiau
Fel gwrthbleidiau, mae Theo Davies-Lewis yn credu bod Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn “eithaf effeithiol” dros yr wythnosau diwethaf wrth roi pwysau ar Vaughan Gething.
Mae’n debyg bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ystyried opsiynau i wneud cynnig o ddiffg hyder yn y Prif Weinidog hefyd.
“I gael yr hyder i ddweud hynna, mae’n dangos bod gyda’r gwrthbleidiau rôl yna,” meddai wedyn.
“Pa mor bositif ydy’r rôl yna? Mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn eithaf clir efo sut maen nhw wedi ymateb.
“Efallai beth sydd ddim gyda ni ydy gwrthbleidiau gyda phlatfform polisi sy’n effeithiol – ond allech chi ddweud yr un peth am y Blaid Lafur.
“Oes yna lot o wahaniaeth rhwng y pleidiau? Dim mewn gwirionedd.
“Gawn ni weld os yw’r brwydro personol dros y Prif Weinidog yn symud tuag at sgriwtineiddio polisïau.”
‘Darluniau’n bwysig’
Os na fydd y Prif Weinidog yn dod o hyd i ffordd i symud yr agenda newyddion yn ei blaen, mae’r sefyllfa’n debyg o achosi “lot o drafferthion” iddo, yn ôl Theo Davies-Lewis.
“Dw i’n gwybod does dim lot o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ar unigolion, ond tasech chi’n gofyn i’r cyhoedd beth yw mantra Vaughan Gething, a meinciau cefn Llafur hyd yn oed, byddai’n anodd iawn cael ateb.
“Ar hyn o bryd, dyna i gyd rydyn ni’n darllen am y Prif Weinidog yw’r straeon yma sydd wedi datblygu dros yr wythnosau diwethaf.
“Dyna i gyd rydyn ni’n siarad amdano yw dyfodol Vaughan Gething, a dyw e ond wedi bod yn y swydd ychydig wythnosau.
“Mae darluniau’n ofnadwy o bwysig mewn gwleidyddiaeth, ac mae’r darlun yma wedi cael ei greu o Vaughan Gething lle mae pobol yn gofyn cwestiynau am sut mae’n gwneud dewisiadau – ei ddewis i gael gwared ar y gweinidog, ei ddewis i gael gwared ar negeseuon, ei ddewis i gymryd yr arian.
“Dyna beth mae pobol yn ei gwestiynu, ac i Brif Weinidog mae hynna’n eithaf peryglus, achos dydych chi ddim yn sgriwtineiddio polisïau – rydych chi’n sgritiwneiddio’r dyn neu’r fenyw sydd yna.
“Mae’n rhaid iddo fe dynnu’r sylw oddi wrtho fe a chanolbwyntio ar yr agenda wleidyddol, ond mae’n anodd gweld beth yw’r agenda wleidyddol ar y funud.”