Mae arddangosfa ffotograffiaeth yn trafod annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia i’w gweld yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Mai 22).
Mae Darlunio’r Dyfodol: Ffotograffiaeth o Gymru, yr Alban a Chatalwnia yn ffurfio asgwrn cefn astudiaeth academaidd amhleidiol gyntaf y byd Canolfan Gwleidyddiaeth Cymru a Chymdeithas ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth edrych ar y teimladau a’r profiadau sy’n llywio safbwyntiau pobol ar annibyniaeth.
Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd y newyddiadurwr ac awdur Will Hayward yn ymuno â rhai o ffotograffwyr a churaduron yr arddangosfa, a’r ymchwilwyr academaidd blaenllaw Dr Elin Royles a Dr Anwen Elias ar gyfer trafodaeth banel ar ‘Sgyrsiau Creadigol am Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru’.
Caiff y digwyddiad ei noddi gan Elin Jones, Llywydd y Senedd, ac mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfleoedd i ymwelwyr rannu eu barn a’u teimladau ynghylch y casgliad, ac mae’r cyfan yn rhan annatod o’r astudiaeth academaidd sy’n torri tir newydd.
Mae cydweithio â chlybiau ffotograffiaeth yn y modd hwn yn herio dibyniaeth gonfensiynol academyddion ar ymatebion arolwg a data demograffig (fel oedran, rhyw neu ddosbarth), wrth archwilio agweddau at annibyniaeth.
Mae’r astudiaeth yn tanlinellu arwyddocâd emosiwn i ymateb pobol i’r pwnc, a bod agweddau at annibyniaeth ymhell o fod yn sefydlog ac yn gallu amrywio yn seiliedig ar gyd-destun gwleidyddol ac economaidd penodol y cyfnod.
Mae’r arddangosfa eisoes wedi bod ar daith o amgylch Aberystwyth, Caernarfon, ac Ynyshir yn y Rhondda, gyda chasgliad union yr un fath â’r hon sydd i’w gweld ar ddydd Mercher yng Nghaerdydd hefyd i’w gweld yn Barcelona tan Fai 31.
Mae’r casgliad yn cynnwys 46 o ffotograffau gan 35 o ffotograffwyr o’r tair gwlad, a phob un ohonyn nhw yn dangos safbwyntiau amrywiol i’r syniad o annibyniaeth.
‘Ymatebion amrywiol a thrawiadol’
“Elfen hanfodol o’n hymchwil arloesol yw’r arddangosfa hon, sy’n cyfleu emosiynau a theimladau pobol,” meddai Dr Elin Royles.
“Rydyn ni eisiau deall yn well y ffordd mae pobol o gefndiroedd gwahanol, o wahanol genhedloedd, yn meddwl ac yn teimlo am eu dyfodol gwahanol, a pha brofiadau sydd yn dylanwadu ar eu barn.
“Mae’r ffotograffau hyn yn cynnig ymatebion amrywiol a thrawiadol i bwnc annibyniaeth.”
‘Annibyniaeth barn’
“Mae ffotograffiaeth yn arf pwerus i ddarparu dealltwriaeth fwy cyflawn o’r hyn sy’n digwydd, ac i helpu i benderfynu i ba raddau mae emosiwn yn dylanwadu ar safbwyntiau pobol ar faterion fel annibyniaeth,” meddai Dr Anwen Elias.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn Golygydd Materion Cymreig Wales Online, Will Hayward, am yr arddangosfa a’r syniad fod dulliau gweledol fel ffotograffiaeth â chyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r sgwrs barhaus ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.”
Un o’r ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa yw Richard Jones o’r gogledd.
“Mae fy ffotograffau ‘Dolbadarn yn deffro’ ac ‘Annibyniaeth Barn’ yn mynegi’r math o wawr newydd y credaf y gall Annibyniaeth ddod i Gymru,” meddai.
“Gan nad yw’r arddangosfa ei hun yn hyrwyddo safbwynt arbennig ar Annibyniaeth, mae wedi bod yn ddadlennol gweld fy ffotograffau ochr yn ochr â gwaith ffotograffwyr ar ddwy ochr y ddadl.”