Bydd mwy o Eisteddfod yr Urdd yn cael ei ffrydio eleni nag erioed o’r blaen, drwy S4C Clic.

Bydd yr holl gystadlu o’r Pafiliwn Coch, y Pafiliwn Gwyn a’r Pafiliwn Gwyrdd yn cael ei ffrydio’n fyw ac yn ecsgliwsif, gan ddechrau am 8yb bob dydd hyd at ddiwedd y cystadlu.

Bydd modd gwylio’r cyfan ar ffôn, tabled neu deledu clyfar, ar ôl cofrestru ymlaen llaw gydag S4C Clic.

Gwasanaeth byw yn unig fydd hwn, a fydd e ddim ar gael ar alw.

Yr arlwy

Bydd rhaglen arbennig yn rhoi rhagflas o wythnos o gystadlu, Croeso i Eisteddfod yr Urdd nos Sul (Mai 26), lle bydd uchafbwyntiau o’r sioe Cynradd a’r sioe Ieuenctid, ynghŷd â blas o’r ardal a’r paratoadau, gwybodaeth ar sut i gyrraedd y maes, a sut i wylio ar holl blatfformau darlledu a chyfryngau cymdeithasol.

Bydd darllediadau dyddiol ar S4C o’r Maes rhwng 10:30yb a 6:30yh, a bydd y rhaglen uchafbwyntiau gyda’r hwyr am 8yh.

Ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â’r Maes ym Meifod, ‘Yr Adlen’ yw’r lle i fynd er mwyn cael gweld sioeau Cyw – a does dim angen tocyn.

Bydd y plant hŷn yn cael modd i fyw yng nghwmni criw Stwnsh, fydd yn cynnal amryw o weithgareddau a gemau ar hyd y Maes ac yn Yr Adlen.

Bydd llwyth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ddyddiol ym mhabell S4C.

Diwrnod o weithgareddau i ddathlu Dysgwyr fydd yn y babell ar ddydd Mercher, a bydd dydd Gwener yn ddiwrnod Hansh, y platfform i bobol ifanc.

Ymysg y gweithgareddau ym mhabell S4C fydd disgo tawel, bŵth canu carioci a Sinema S4C.

Yn ogystal â chyfle i wylio prif seremonïau’r dydd yn fyw yn Sinema S4C, bydd dangosiadau o raglenni fel Deian a Loli, Dreigiau Cadi, Tanwen ac Ollie, ac Y Coridor, sef cyfres ddrama newydd i ddisgyblion oed ysgol uwchradd.

Bydd Siop S4C ar y stondin hefyd, gyda dillad, teganau meddal a nwyddau Cyw, Stwnsh a Hansh. System taliad di-arian fydd yn cael ei gweithredu ar y stondin.

Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal fydd yn rhoi blas o ddigwyddiadau’r dydd, gan gynnwys yr holl ganlyniadau, cyffro’r Maes a chynnwrf gefn llwyfan, ac yn ymuno â nhw fydd Mari Lovgreen, Alun Williams a Lili Beau.

‘Gwreiddioldeb’

“Un o’r pethau dwi’n mwynhau fwya’ am Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn yw gwreiddioldeb,” meddai Heledd Cynwal.

“Mae’r ffordd mae nifer o’r hyfforddwyr a’r cystadleuwyr yn mynd ati i ddehongli themau’r cystadlaethau yn aml iawn yn eich arwain chi ar daith wahanol i’r hyn y byddech chi yn ei ddisgwyl… sydd yn y pendraw yn agor ein meddyliau ni, ac yn rhoi cyfle i blant a phobol ifanc hedfan!

“Mae’n destun balchder hefyd i ni fel cenedl, dw i’n credu, i weld sut mae’r Urdd yn llwyddo’n flynyddol i ddatblygu, ac i esblygu i fod yn fudiad sy’n cynnwys ac yn cynnig cyfle i bawb!”

‘Un parti mawr’

Mae Mari Lovgreen yn byw yn ardal yr Eisteddfod eleni, a bydd hi’n dod â’r holl ganlyniadau.

“Dwi ar dân i rannu’r holl ganlyniadau eto eleni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd!” meddai.

“Fel mam i ddau sydd wedi cystadlu, dw i’n gwbod pa mor amhosib bron ydi cyrraedd y tri uchaf drwy’r wlad.

“Fydd hi’n un parti mawr ar y llwyfan canlyniadau!

“Fydd hi ychydig bach fwy sbesial eleni hefyd, gan ’mod i ond yn byw saith milltir o’r maes ac felly wedi bod yn rhan o gynnwrf yr ardal ers sbel rŵan – mae ‘na hen edrych ymlaen!

“Mae Mwynder Maldwyn yn barod amdanoch chi!”