Mae panel beirniaid Y Llais ar S4C bellach yn gyflawn, ar ôl i Bronwen Lewis gael ei datgelu fel y pedwerydd aelod.

Bydd hi’n ymuno â Bryn Terfel, Aleighcia Scott ac Yws Gwynedd, a’r cyflwynydd Siân Eleri ar gyfer y gyfres gan gwmni Boom Cymru, fydd yn cael ei darlledu y flwyddyn nesaf.

Bydd y pedwar yn gweithredu fel hyfforddwyr llais ar ôl iddyn nhw feirniadu a dewis y rhai fydd yn mynd drwodd.

Y rhaglen

Fe fydd wyth pennod awr a hanner o hyd yn rhan o gyfres S4C.

Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau wrth i gantorion gorau’r genedl geisio creu argraff ar bedwar o artistiaid gorau Cymru.

Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i’r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni’n enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora deuddeg mis o hyd sy’n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.

Bydd y gyfres yn cynnig adloniant llawn hwyl i’r teulu cyfan, gyda’r cyfan ar gael i’w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Darganfod y seren fawr nesaf

“Mae’n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o’r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?” meddai Bryn Terfel.

“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.s4c.cymru/yllais.

“Dyma’r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o’r gyfres mwyaf cyffrous ar y teledu.”

Yn ôl Siân Eleri, mae’r rhaglen yn “blatfform i ddarganfod a meithrin talent newydd”.

“Mae croesawu’r sioe adre i Gymru gydag S4C yn brofiad gwirioneddol arbennig!” meddai.

“Dw i methu aros i weld y cadeiriau enwog yn troi!”