Daeth newyddion da o’r Alban yr wythnos hon.
Mae’r Aeleg ar i fyny, gyda 43,100 yn fwy o’r boblogaeth tair oed a throsodd yn dweud bod ganddyn nhw rywfaint o sgiliau yn yr iaith o gymharu â 2012. Y ganran Alban-gyfan yw 2.5%, sy’n bitw o gymharu â’r Gymraeg, wrth gwrs, ond cynnydd ydi cynnydd. Ynysoedd Heledd ydi’r cadarnle o hyd, lle mae 45% yn ei siarad hi. Fis Gorffennaf 2019, bues i’n ddigon ffodus i fod reit yn eu canol nhw yng ngŵyl werin ryngwladol Tiriodh (Tiree), lle’r oedd pobol yn cymdeithasu a chanu’n Gàidhlig mewn cae steddfod o le drws nesa’ i draeth gwyngalchog tebycach i’r Caribî. Mae’n ynys gwbl hudolus, a chyda’r fferi o Oban yn cymryd pedair awr i hwylio o’r tir mawr, yn teimlo fel byd arall.
Dwi’n ffeindio’n hun yn eiddigeddus o’r Alban yn rheolaidd. Damia nhw!
Wedi’r cwbl, mi ddangoson nhw eu lliwiau’n gadarn o blaid yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 (62%) o gymharu â ni (47.5%), ac mae’r blaid genedlaethol yno’n dal mewn grym yn Holyrood er gwaethaf strach sawl prìomh mhinistear diweddar. Mae ganddyn nhw wasg brint werth ei halen o hyd, o The Herald Glasgow i The Scotsman o Gaeredin ymhlith nifer, sy’n golygu bod eu hadolygwyr papurau nhw’n gallu troi at straeon Albanaidd go iawn, yn lle rhai Radio Cymru sy’n gorfod pigo am friwsion Cymreig gan bapurau Llundain. Ac mae eu trydedd sianel yn llawer mwy unigryw na’n ITV Cymru Wales ni. Mae gan STV dipyn mwy o reolaeth dros ei newyddion a’i rhaglenni ei hun, gyda news.stv.tv/ yn rhannu’r wlad yn bedwar rhanbarth cyn categori “UK & International”. Meddyliwch am stafell newyddion Saesneg o Fangor, Abertawe neu Gaerdydd yn darlledu straeon o Gymru’n gyntaf cyn troi at y diweddara’ o San Steffan a Gaza. Ylwch beth sy’n bosib gydag awydd, ewyllys, a mwy o annibyniaeth barn.
Dwi’n sgut am nofelau a chyfresi ditectifs y Sgotiaid hefyd. Mae rhai fel Taggart (1983-2010) a Shetland (2013+) wedi’u hallforio i bedwar ban byd dan faner Tartan Noir, a’r fersiwn ddiweddaraf ydi Rebus, sy’n seiliedig ar nofelau poblogaidd Ian Rankin. Dwi’n sglaffio drwyddyn nhw ar iPlayer ar hyn o bryd, ac mae’r actor Richard Rankin yn cael hwyl arni fel y rebal o dditectif sy’n ceisio cydbwysedd rhwng ei deulu, ei fos a gangsters lleol Caeredin. Ac ydi, mae strydoedd serth y brifddinas goblog yn gymeriad eiconig ei hun, sy’n sicr o ddenu rhagor i rywle sydd eisoes yn berwi o dwristiaid cartref a thramor. Rhaid picied i dafarn fach enwog yr Oxford ryw ben, lle mae Rebus yn aml yn anwesu peint o IPA.
A dyma feddwl – lle aflwydd mae’r ditectif o Gymro ar sgriniau teledu Prydain a thu hwnt? Do, mi gawson ni’r DCI llygaid llo bach, Tom Mathias, o Geredigion mewn tair cyfres o’r Gwyll, ddaeth i ben yn llawer rhy gynnar. Mae unrhyw ddrama sy’n hoelio sylw’r New York Times yn haeddu comisiwn arall:
“Straight out of Wales – with murders, the dark ‘Hinterland’ doubles as a travelogue.”
Yn bersonol, mi alla’i weld y Sarjant Idwal Davies yn llwyddo’n lleol heb sôn am ryngwladol, gyda môr a mynyddoedd Eryri yn gefnlen i’r straeon. Beth am addasu Gwynt y Dwyrain ar gyfer y sgrin fach, Alun Ffred? Fersiwn Gymraeg yn unig, wrth gwrs, efo rhywfaint o Saesneg pencadlys y glannau, nid mwy o’r lol cefn-wrth-gefn. Rydan ni’n hen lawiau ar isdeitlau y dyddiau hyn, Brexit neu beidio.
Mae’n debyg y gwelwn ni fymryn mwy o Gymru ar sgriniau Prydain a thu hwnt yn ystod y misoedd nesaf. Er, tydi datganiad diweddaraf y Gorfforaeth Ddarlledu ddim yn addawol iawn ar yr olwg gyntaf. Mae BBC Wales a BBC Comedy newydd gyhoeddi drama-gomedi Death Valley, am actor wedi ymddeol (Timothy Spall) sy’n cydweithio â sarjant lleol (Gwyneth Keyworth, gynt o Craith) i ddatrys llofruddiaeth ei gymydog. Mae unrhyw beth sy’n cynnwys yr ystrydeb ‘valleys’ ac sy’n dibynnu ar enw mawr o Loegr i ddenu gwylwyr wedi ’ngholli i’n barod.
Rheitiach sôn am ddrama arfaethedig gan un o’n hawduron cynhenid ni. Mae Daf James o Gaerdydd (Tylwyth, Gwaith/Cartref) wedi cael pwl go gynhyrchiol yn ddiweddar, gyda’i ddrama Lost Boys and Fairies yn adrodd stori cwpl hoyw Cymreig-Gwyddelig sydd am fabwysiadu eu plentyn cyntaf. Mae’n addo torri tir newydd gyda llawer o ddeialog Cymraeg yn nrama’r oriau brig ar BBC One (mi fydd y Daily Mail yn ei chasáu hi), ac eisoes yn hawlio’r penawdau megis yn y Guardian (“The drag queen adoption drama inspired by real life”) a’i harddangos mewn gwyliau ffilm o’r Internationale Filmfestspiele Berlin, i Seriesfest Denver yn yr Unol Daleithiau.
Drag yn lle ditectif, felly. Ond wedi cymaint o lwyfan i’r Alban, mae unrhyw beth sy’n rhoi Cymru a’r Gymraeg ar blatfform byd-eang yn haeddu sylw…