Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C, gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Anna Smith, sy’n byw yn Llangollen, sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres Rownd a Rownd ar S4C.
Mae Anna wedi bod yn dysgu Cymraeg ers iddi symud i Langollen chwe blynedd yn ôl. Roedd hi’n arfer mynd i ddosbarthiadau yn neuadd y dre cyn Covid. Mae hi’n dysgu ar-lein ers hynny.
Anna, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?
Rownd a Rownd ydy fy hoff raglen ar S4C. Dw i’n hoffi’r ei bod yn cael ei ffilmio yn y gogledd.
Beth wyt ti’n feddwl o’r actorion?
Dw i’n meddwl bod yr actorion yn dda am wneud i mi gredu yn eu byd nhw.
Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n argymell y rhaglen i ddysgwyr Cymraeg achos mae’r bobl yn siarad am bynciau bob dydd felly mae’n hawdd ei ddilyn.
Gallwch wylio’r rhaglen gyda’r isdeitlau yn Gymraeg neu Saesneg hefyd.
Rownd a Rownd ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 6.30yh