Dydd Sadwrn, Ebrill 27, 2024.

Diwrnod cyhoeddi’r Eisteddfod, a finnau braidd yn hwyr yn cyrraedd canol y ddinas i fynychu’r digwyddiad ar ‘Llwyn isaf’, sef y lawnt o flaen Llyfrgell Wrecsam a Neuadd y Dref. Ac efallai mai dyna pam wnes i ddim anelu’n syth am multistorey Tŷ Pawb, yn ôl fy arfer, ond yn hytrach ymuno â’r sgrym o geir oedd yn ceisio parcio funud olaf ym maes parcio Byd Dŵr.

Yn ddigon ffodus, roeddwn i ychydig o flaen y llif o geir o Steddfotwyr ddaeth funudau wedyn, a llwyddais i barcio mewn man amheus, lle ymunais yn y sgyrsiau niferus ynglŷn â beth roedd yr arwydd wir yn ei feddwl, ac a oedd gennym hawl i barcio ene neu ddim, hyd yn oed hefo tocyn.

Siambls déjà vu-aidd

Drannoeth, gwisgais fy ffrog hiraf, leiaf clingy… rhywbeth fysa pobol yn ei wisgo i fynd i’r capel, am wn i. Gyrrais draw i Rosllannerchrugog i fynychu Cymanfa ganu’r gyhoeddi, oedd, yn ôl y neges ar Facebook, yn cael ei chynnal yng Nghapel Bethlehem.

Eto fyth, roeddwn yn hwyr a sylweddolais nad oeddwn yn gwybod p’run un o’r capeli niferus oedd Capel Bethlehem. Gwelais ddynes yn cerdded a stopiais y car, gan ofyn iddi yn Saesneg drwy’r ffenest am gyfarwyddiadau. Sbïodd arnaf yn garedig, gan bwyntio at yr adeilad ychydig i lawr y stryd.

Yna, gan wenu ychydig yn ddireidus, gofynnodd hi a’i dene beth oedd yr holl geir yma – beth oedd yn digwydd, tybed? Dyna pryd sylwais ar y siambls; ceir oedd wedi’u parcio’n chwit-chwat ar hyd strydoedd igam-ogam Rhos! Roedd rhai hyd yn oed i fyny ar ddwy olwyn, fel eu bod gymaint oddi ar y ffordd â phosib.

Doeddwn i heb feddwl llawer am le i barcio, gan fod y rhan fwyaf o’r capeli draw yn Rhos hefo’u meysydd parcio mawr eu hunain.

Beth bynnag, penderfynais yrru draw at y Stiwt, lle roedd ddigonedd o le i barcio, a rhedais rownd y gornel ’nôl at Gapel Bethlehem. Wrth setlo fy hun ar y fainc pren, synfyfyriais ar y diffyg trefn o ran parcio, a’r drafferth yn sgil hynny – a hynny hefo dim ond ryw 500 o bobol.

Cofiais yn ôl at rywun yn dweud wrtha i am ddigwyddiad crefyddol yma yn Rhos un tro, lle bu cytundeb i agor holl feysydd parcio’r capeli, gan ddosbarthu pasys parcio priodol i gadw’r parcio’n gytbwys ac yn drefnus; fysa rhywbeth tebyg wedi bod yn handi fa’ma!

Diffyg ymwneud â’r gymuned leol

Ar ôl y digwyddiad, a phawb allan ar y stryd yn siarad, digwyddais daro mewn i hen ffrind o’r ysgol, sy’n dal i fyw yn Rhos a dal yn siarad Cymraeg (peth digon anghyffredin ymysg dosbarth ’95!).  Ar hap, roedd hi wedi clywed rywfaint o’r canu ac wedi mwynhau, ac â diddordeb clywed beth oedd yn mynd ymlaen.

Meddyliais gymaint o biti oedd hi nad oedd un o’r trigolion lleol, Cymraeg ei hiaith, wedi cael gwybod am y digwyddiad. Wrth gwrs, roedd pobol capel y ddinas, ynghyd â’r corau niferus, i gyd ‘in the know’, ond faint o groeso oedd gweddill y ddinas yn ei deimlo, tybed? Faint yn rhagor fysa wedi hoffi ymuno â ni, gan ychwanegu eu lleisiau swynol, amrywiol?

Wrth feddwl am y ddynes roeddwn wedi’i holi yn gynharach am Gapel Bethlehem, synfyfyriais ar ei hymateb hi – synnu ar yr holl geir a’r halibalŵ (er, o ran diddordeb yn gymaint â phoeni am darfu ar fywyd beunyddiol). Mae sôn wedi bod am yr angen i ennill calonnau pobol ddi-Gymraeg yr ardal – wel, roedd cyfle wedi’i golli y diwrnod hwnnw, on’d oedd?

Ymlaen!

Wrth feddwl yn hirdymor am y Brifwyl ei hun, dw i yn poeni wrth weld pethau’n mynd mor flêr yn ystod y build-up, ynde.

Mi wn fod yna garfan go eang o bobol sydd dal yn frwd dros y syniad o gael Steddfod ‘ddinesig’ yn Wrecsam, gan hiraethu am Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Ond does gan Wrecsam ddim Bae, nag oes? A does gennym ni ddim y strwythur na seilwaith dinas fel sydd gan Gaerdydd chwaith – megis parcio digonol, a llefydd i bobol aros. Oes, mae yna feysydd parcio a gwestai, ond dim hanner digon i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Ac mae’r rhai sy’n hiraethu am Gaerdydd yn dueddol o sôn hefyd am serendipedd y ffaith fod pobol yn digwydd gweld y stondinau a ballu, ac yn dod draw i holi beth oedd yn mynd ymlaen; braf iawn, dwi’n cytuno.

Ond os taw profiad trigolion Wrecsam yw methu parcio i gasglu’u plant o’r pwll nofio, neu synnu ar y ceir wedi’u parcio’n siambls i gyd ar hyd strydoedd Rhos, a hwythau heb gael y memo am y shindig elitaidd Cymraeg, Cymraeg, Cymraeg (…gradd da…), ac yna yn dechrau cysylltu hyn oll hefo’r gair ‘Eisteddfod’, wel tydi hynny ddim cweit mor braf, na’di?!

I gloi

Mae’n ddrwg iawn gen i am fod mor negyddol, ac wrth gwrs mae yna lwyddiant a llawenydd hefyd. Ond mae gennym £400,000 eisiau ei godi gyda help y gymuned leol, felly bydd angen i bawb helpu, ac nid jyst ‘tîm telyn’ yr ardal!

Dw i ddim yn dweud ei fod o’n amhosib, gan fod pobol Wrecsam yn ddyfeisgar ac yn benderfynol (â dyfynnu Ryan Reynolds). Ond bois bach, bydd angen i ni wneud dipyn gwell na’r siambls sydd wedi bod hyd yma!