Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl ar gael gwared ar y dreth dwristiaeth a newid rheolau trethi ail gartrefi heddiw (dydd Mercher, Mai 22).
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i lety gwyliau fod yn llawn am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael ei ystyried yn llety gwyliau a thalu trethi busnes yn hytrach na threthi ail gartrefi.
Yn y Senedd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ostwng y trothwy i 105 niwrnod y flwyddyn.
Maen nhw hefyd yn gorfodi pleidlais ar gael gwared ar y dreth dwristiaeth arfaethedig.
Gallai’r dreth gael ei chyflwyno erbyn 2027, medd Llywodraeth Cymru y llynedd, ond penderfyniad cynghorau lleol fyddai cyflwyno’r ardoll neu beidio.
‘Trothwy dinistriol’
Cyn y ddadl, fydd yn cael ei chynnal tua 5.30yp, dywed Laura Anne Jones, llefarydd diwylliant, twristiaeth, chwaraeon a chyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, fod twristiaeth yn “gwbl hanfodol i economi a chymunedau lleol Cymru”.
“Mae’n gyfrifol am dros 150,000 o swyddi Cymru, ac am 5% o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y wlad,” meddai.
“Dw i’n edrych ymlaen at gyflwyno dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth Lafur i gael gwared ar y dreth dwristiaeth tocsig, a gostwng eu trothwy dinistriol i 105 diwrnod.”
Yn rhan o’r cynnig, maen nhw’n hefyd yn galw am gyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio’r sector ar gyfer y dyfodol, a gwneud Croeso Cymru yn gorff annibynnol.
Ar hyn o bryd, mae’n gangen o Lywodraeth Cymru.
‘Hen bryd cael adolygiad’
Dywed Suzy Davies, cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru a chyn-Aelod Ceidwadol o’r Senedd, eu bod nhw’n falch o weld aelodau’r Senedd yn cael cyfle i drafod twristiaeth.
“Mae angen craffu ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant,” meddai.
“Mae’r pentwr o bolisïau sy’n dinistrio swyddi ac incwm, heb unrhyw dystiolaeth o’u buddiannau fel arall, yn dangos bod angen eu newid nhw neu gael gwared arnyn nhw.
“Mae hi’n hen bryd cael adolygiad.”
‘Twristiaeth gynaliadwy’
Dadl Llywodraeth Cymru yw y byddai treth dwristiaeth yn hybu twristiaeth fwy cynaliadwy.
“Gwyddom fod twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi economïau lleol.
“Ond gall twristiaeth anghytbwys, gyda chefnogaeth wael, hefyd roi pwysau ar gymunedau lleol a thanseilio’r ansawdd uchel amwynderau rydyn ni i gyd eisiau eu profi a’u cynnig i’n hymwelwyr.”
Roedd y polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac ers i hwnnw ddod i ben yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu “edrych yn fanwl ar sut y gallwn symud ymlaen ag ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio sy’n weddill”.
Wrth gyfeirio at y trothwy o 182 diwrnod, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod y newidiadau wedi cael eu gwneud i “helpu i ddatblygu marchnad dai decach ac i sicrhau bod perchnogion eiddo’n gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae nhw’n berchen cartrefi neu redeg busnes”.
Daeth i rym fis Ebrill diwethaf, fel rhan o becyn ehangach o fesurau oedd yn cynnwys rhoi grym i awdurdodau lleol godi premiwm treth cyngor o 300% ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor.