Mae cynlluniau ar gyfer ugain o gabanau gwyliau hunanarlwyo ym mhentref Johnston yn Sir Benfro wedi cael eu cymeradwyo, wrth i uwch aelod o’r pwyllgor cynllunio ganmol yr ymgeisydd am “fuddsoddi mewn twristiaeth”.

Roedd cais gan Peter Rawsthorne, aeth gerbron cyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Penfro ddoe (dydd Mawrth, Mai 21), yn ceisio caniatâd ar gyfer cabanau gwyliau byr a gweithfeydd cysylltiedig ar dir y tu ôl i’r Larder ar Heol Vine.

Cafodd y cais, sydd wedi’i leoli ger nifer o adeiladau un llawr sy’n gysylltiedig â Silverdale sy’n cael ei ddefnddio ar hyn o bryd fel llety brys dros dro, ei argymell ar gyfer cymeradwyaeth amodol wedi’i dirprwyo.

Adroddiad ar gyfer cynllunwyr

“Bydd y cynnig yn creu rhywfaint o sŵn, arogleuon a niwsans golau artiffisial o gymharu â’r safle gwag presennol,” meddai adroddiad ar gyfer cynllunwyr.

“O ystyried yr agosatrwydd, ar ochr ddeheuol safle’r cais, i breswylfeydd yng Nghlos Silverdale ac Acorn Drive, mae’r Pennaeth Tai a Gwarchod y Cyhoedd wedi cynghori y dylid fod angen Asesiad o Effaith Sŵn cyn penderfynu a ddylai’r cais alluogi asesiad o’r holl sŵn sy’n deillio o’r datblygiad arfaethedig, ac i hyn amlinellu mesurau arfaethedig o ran teneuo unrhyw niwsans o ran sŵn.

“Mae preswylfa yn y gofod hwn, er bod hyn ar gyfer ymwelwyr tymor byr all fod yn llai ystyriol o drigolion parhaol presennol, yn ddefnydd nodweddiadol a disgwyliedig yn y lleoliad maint canolfan wasanaeth hwn, ac fe ellid ei amsugno mewn modd boddhaol.

“Mae gormod o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn faterion y gellid ymdrin â nhw gyda rheoliadau deddfwriaethol eraill hefyd.”

Wrth siarad yn ystod y cyfarfod, dywedodd yr ymgeisydd Peter Rawsthorne o’r cwmni lleol Haven Systems y byddai’r cynllun yn cynnig mwy o sicrwydd i’r busnes, gan ychwanegu y byddai’n cael “effaith bositif” ar y pentref a thwristiaeth yn y sir.

“Mae Johnston wedi bod yn datblygu dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf, felly mae’n wych gweld busnes yn cymryd risg ac yn buddsoddi mewn twristiaeth yn yr ardaloedd hyn; mae’n braf gweld busnesau lleol yn buddsoddi mewn ardaloedd newydd yn y sir,” meddai’r Cynghorydd Rhys Jordan, is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

Fe wnaeth aelodau gefnogi’r argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth amodol yn unol â phwerau wedi’u dirprwyo.