Mae chwyddiant yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng i 2.3%, y lefel isaf ers bron i dair blynedd.

Y targed oedd cyrraedd 2%, ac er bod prisiau’n dal i godi mae’n golygu eu bod nhw’n cynyddu’n arafach nag y maen nhw wedi’i wneud ers mis Medi 2021.

Gostyngiad mewn prisiau ynni sydd wrth wraidd y gwymp, gan eu bod nhw wedi gostwng 27.1% yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill.

Mae chwyddiant mewn diwydiannau sy’n cynnig gwasanaethau, fel lletygarwch a siopau trin gwallt, yn dal yn uchel – 5.9% ym mis Ebrill.

Mae disgwyl i’r gwymp mewn chwyddiant arwain at ostwng cyfraddau llog gan Fanc Lloegr yn nes ymlaen eleni.

Dydy hi ddim yn glir pryd fydd hynny, ond mae arbenigwyr yn amau a fydd hynny’n digwydd ym mis Mehefin.

‘Newyddion gwych’

Dywed Samuel Kurtz, llefarydd economi ac ynni’r Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn newyddion “gwych” i bobol ledled Cymru.

“Yn dilyn pwysau allanol sylweddol ar ein heconomi gan y pandemig ac ymosodiad [yr Arlywydd Vladimir] Putin ar Wcráin, mae’r gwymp mewn chwyddiant yn dangos bod cynllun Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn gweithio,” meddai.

“Mae angen cynllun nawr ar y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i gefnogi economi Cymru drwy weithredu rhyddhad trethi busnes yn llawn a diwygio’r dreth ar dwf.”

Yn ôl Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae heddiw’n “nodi moment fawr i’r economi, gyda chwyddiant yn ôl i normal”.

‘Dim byd normal am brisiau’

Fodd bynnag, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, nad oes “dim byd normal” am brisiau bwyd a nwyddau hanfodol.

Daw ei sylwadau gyda sïon ar led y gallai Rishi Sunak fanteisio ar y cyfle i alw etholiad cyffredinol.

“Heddiw, bydd y Prif Weinidog Sunak yn brolio bod chwyddiant ’nôl i normal’,” meddai.

“Ond does dim byd normal am gostau hanfodion, gyda phrisiau bwyd yn dal i fyny tua 30% o fis Mawrth 2021.

“Mae gostyngiad mewn chwyddiant i’w groesawu, ond mae teuluoedd yn dal i wynebu caledi.”

Ychwanega Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru dros yr economi yn y Senedd, fod teuluoedd yn dal i gael eu gwasgu gan brisiau uchel, “er bod y Ceidwadwyr yn trio peintio darlun da cyn yr etholiad cyffredinol”.

“Y realiti? Mae pobol yn dioddef,” meddai.

Chwyddiant ar ei isaf ers Medi 2021: “Da, ond dal yn broblem mewn rhannau o’r economi”

Cadi Dafydd

“Tra bo chwyddiant wedi dod lawr, dydy hynna ddim yn golygu bod prisiau wedi dod lawr”