Mae bron i draean o newyddiadurwyr Cymru’n ystyried gadael y maes, yn ôl arolwg newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr astudiaeth gan ymchwilwyr yng Nghanofan yr Economi Greadigol, mae’r astudiaeth yn dangos maint yr her o ran sicrhau bod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru “yn goroesi a’i bod â hygrededd”.

Cafodd cannoedd o bobol eu holi fel rhan o’r arolwg, gan gynnwys rhai sy’n gweithio i gwmnïau cyfryngau mawr, gwefannau cymunedol annibynnol, gweithwyr llawrydd a rhanddeiliaid eraill fel y rheiny ym maes hyfforddiant neu bolisi.

Ystadegau allweddol

Yn ôl yr arolwg, mae:

  • dros 65% o newyddiadurwyr Cymru wedi meddwl am adael y sector
  • 31% ar fin gadael y sector
  • sicrwydd swyddi (21%), cyflog (18%) a straen a gorludded (18%) ymhlith y prif resymau dros adael neu ystyried gadael
  • llwyth gwaith a phwysau amser ymhlith y ffactorau eraill

O gymharu â data diweddara’r Deyrnas Unedig yn 2018, roedd 64% o newyddiadurwyr yn bwriadu aros yn y maes bryd hynny.

Ond er gwaetha’r ystadegau, mae 74% o newyddiadurwyr yng Nghymru naill ai’n fodlon iawn neu’n weddol fodlon yn eu swyddi presennol.

Mae 28% o’r rhai gafodd eu holi ar gytundebau parhaol, amser llawn, tra bod 7% ar gytundebau parhaol rhan amser.

Roedd gan bron i 9% o bobol gytundebau cyfnod penodol amser llawn, ac roedd 4% ar gytundebau cyfnod penodol rhan-amser, tra bod 28% yn weithwyr llawrydd.

Casgliadau allweddol eraill

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod yna ddiffyg amrywiaeth mewn ystafelloedd newyddion, gyda’r mwyafrif o newyddiadurwyr yn ddynion rhwng 45 a 54 oed o aelwydydd dosbarth canol.

Yn ôl yr astudiaeth, dydy ystafelloedd newyddion a sefydliadau ddim yn llefydd cynhwysol ar gyfer pobol ag anableddau, a dydy’r rhan fwyaf o gynnwys ddim yn cynrychioli’r ystod lawn o bobol a chymunedau sydd i’w cael yng Nghymru.

Mae tensiwn hefyd rhwng dyheadau newyddiadurol am straeon er budd y cyhoedd a’r math o gynnwys mae pobol yn ymgysylltu ag e.

Nododd y rhai gymerodd ran yn yr astudiaeth hefyd fod diffyg hyfforddiant drwy’r Gymraeg, a diffyg cyfleoedd datblygu gyrfa i gadw ar y blaen o ran technoleg newydd, er enghraifft y cynnydd mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Argymhellion

Mae ymchwilwyr wedi cynnig cyfres o argymhellion i ddiogelu’r sector newyddiaduraeth yng Nghymru.

Yn eu plith mae gwell cefnogaeth i weithwyr llawrydd, cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer cynnwys newyddiadurol cynhwysol ac amrywiol, gwell cyfleoedd i bobol o gefndiroedd difreintiedig, a chefnogaeth i newyddiaduraeth mewn meysydd nad ydyn nhw’n cael sylw digonol ar hyn o bryd.

“Am y tro cyntaf, rydyn ni’n gallu gweld yn fanwl yr effaith y mae gostyngiad yn nifer y darllenwyr, cael gwared ar swyddi a llwythi gwaith mwy wedi’u cael ar newyddiaduraeth yng Nghymru,” meddai Dr Marlen Komorowski, arweinydd yr ymchwil gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

“Mae sector newyddiaduraeth ffyniannus yn hanfodol ar gyfer democratiaeth a chynnal trosolwg o’r rheiny sydd mewn grym.

“Mae modd dadlau bod rhai o’r heriau strwythurol mae’r sector yn eu hwynebu yma yn ddyfnach na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, fel sydd i’w weld o’r gyfran mor uchel o newyddiadurwyr sy’n ystyried gadael y sector.

“Mae’n amlwg bod y mwyafrif helaeth o’r rhai gymerodd ran yn yr arolwg yn angerddol am y gwaith maen nhw’n ei wneud, gyda thri chwarter yn dweud eu bod yn hapus yn eu gwaith.

“Ond gyda chymaint yn gweithio o dan amodau ansicr, does dim llawer o syndod bod cyfran mor uchel o newyddiadurwyr yng Nghymru yn ystyried eu dyfodol yn y sector.

“Diolch i’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu a’r gwaith gyda phartneriaid, rydyn ni’n gallu dangos cynllun ar gyfer datblygu diwylliant newyddion iach ac annibynnol fydd yn gwasanaethu buddiannau a safbwyntiau pob cymuned yn well.”

‘Creu diwylliant newyddion mwy iach’

Mae awduron yr ymchwil yn dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd eu gwaith yn arwain at “greu diwylliant newyddion mwy iach” yng Nghymru.

“Wrth siarad yn uniongyrchol gyda newyddiadurwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru, roedd modd i ni ddadansoddi’r sefyllfa go iawn a datblygu cynllun wedi’i seilio ar dystiolaeth er mwyn creu diwylliant newyddion mwy iach,” meddai Silvia Rose, rheolwr prosiect a chyd-gyfarwyddwr Inclusive Journalism Cymru a chyd-awdur yr adroddiad.

“Er gwaetha’r materion oedd yn peri pryder sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, roedd yn glir bod gwerth newyddiaduraeth annibynnol yn dal i gael ei gydnabod.

“Efallai y bydd hi’n cymryd amser i’w wella, ond o leiaf erbyn hyn rydyn ni’n gwybod ble i ddechrau arni.”