Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau mai Wylfa ar Ynys Môn yw’r prif safle ar eu rhestr ar gyfer gorsaf ynni niwclear mawr newydd.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw am gychwyn trafodaethau â chwmnïau rhyngwladol er mwyn adeiladu’r orsaf ar y safle.
Yn ôl y Guardian, mae’r datblygwr cyhoeddus ynni niwclear yn Ne Corea wedi cynnal trafodaethau cynnar â swyddogion yn San Steffan am adeiladu gorsaf werth biliynau o bunnoedd gan defnyddio technoleg APR1400.
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, wedi cadarnhau wrth y BBC ei fod e “wedi cwrdd yn anffurfiol” â chynrychiolwyr cwmni Kepco yn Ne Corea sydd “â diddordeb mawr”, meddai, gan ychwanegu bod yn rhaid “mynd drwy’r sianeli cywir”.
Yn ôl y llywodraeth, bydd yr orsaf newydd yn medru darparu ynni glân a rhad i chwe miliwn o gartrefi am hyd at 60 mlynedd.
Targed y llywodraeth ar hyn o bryd yw fod ynni niwclear yn darparu chwarter o holl gyflenwad ynni’r Deyrnas Unedig erbyn 2050.
‘Yr estyniad mwyaf ers 70 mlynedd’
Dywedodd Claire Coutinho, Ysgrifennydd Diogelwch Ynni a Net Sero y Deyrnas Unedig, mai dyma’r “estyniad mwyaf i ynni niwclear ers 70 mlynedd”.
“Mae gan Ynys Môn hanes niwclear balch ac mae ond yn iawn, unwaith eto, ei bod yn chwarae rhan ganolog wrth hybu diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Byddai Wylfa nid yn unig yn dod â phŵer glân, dibynadwy i filiynau o gartrefi, ond fe allai greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda a dod â buddsoddiad i ogledd Cymru gyfan.”
Ychwanega David TC Davies fod hwn yn newyddion “arwyddocaol” fydd yn cael ei groesawu.
“Mae’n addo dod â miloedd o swyddi o safon uchel i’r economi leol,” meddai.
“Ynghyd ag adfywiad ynni niwclear yn yr Wylfa, mae mesurau diweddar rydym wedi’u cyhoeddi yn cynnwys porthladd rhydd i Ynys Môn, £17m o arian y gronfa ffyniant bro i Gaergybi, a thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, sy’n dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i ddarparu ar gyfer Ynys Môn a gogledd Cymru.”
Croeso gofalus
Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad.
Dywed Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y blaid yn San Steffan, fod “unrhyw gynnydd i’w groesawu… ond bydd pobol Ynys Môn yn ei gredu pan fyddan nhw’n ei weld e”.
“Mae llywodraethau Ceidwadol olynol wedi methu ag adeiladu gorsaf ynni niwclear fydd yn darparu pŵer carbon is, yn hybu diogelwch ynni ac yn creu swyddi.
“Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gweinidogion eistedd yn ôl a gwylio wrth i’r cynlluniau blaenorol ar gyfer yr Wylfa ddod i ben.
“Byddai 50% o’r prosiect hwnnw wedi’i gwblhau erbyn hyn, a byddem yn gweld manteision miloedd o swyddi adeiladu gyda bron i 1,000 yn fwy o swyddi parhaol ar y ffordd.
“Ar ôl 14 mlynedd mae’n hen bryd i bobol gael Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig y gallan nhw ddibynnu arni.
“Bydd Llafur yn cefnogi adeiladu niwclear newydd mewn lleoedd fel Wylfa, gan ddatgloi potensial trawsnewidiol buddsoddiad a swyddi mae’r Ceidwadwyr wedi’u gadael yn segur.”
Mewn neges ar X (Twitter gynt), dywed Ieuan Môn Williams, yr ymgeisydd Llafur dros Ynys Môn, fod “Wylfa wedi ei nodi ar gyfer datblygiad niwclear 16 mlynedd yn ôl gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf”.
“Rydym wedi gwastraffu pum mlynedd ers i brosiect Hitachi, i bob pwrpas, gael ei ganslo gan y Torïaid, sydd nawr yn bwydo straeon nad ydyn nhw’n straeon yn sinigaidd yn ystod blwyddyn etholiad.”