Byddai cyfyngu neu gael gwared ar fisas graddedigion yn cael “effaith uniongyrchol ar sefydlogrwydd ariannol” y sector addysg uwch, yn ôl Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru.
Bwriad Rishi Sunak ydy cyflwyno cyfyngiadau ar fisas graddedigion, er mwyn sicrhau mai dim ond “y gorau a’r disgleiriaf” fydd yn cael dod i’r Deyrnas Unedig.
Mae David Cameron, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, wedi rhybuddio Rishi Sunak y bydd prifysgolion yn gorfod cael gwared ar swyddi, a chau hyd yn oed, pe bai’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Yn ôl dadansoddiad gan Adran Addysg San Steffan, gallai atal teuluoedd rhag dod draw gyda myfyrwyr arwain at 0.5% o gwymp mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).
‘Effaith uniongyrchol’
Dywed Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr corff Prifysgolion Cymru – sy’n cynrychioli buddiannau naw prifysgol Cymru – ei bod hi’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi sicrwydd bod y fisa i raddedigion yma i aros.
Mae’r fisa i raddedigion yn caniatáu i fyfyrwyr o dramor aros am ddwy flynedd ar ôl gorffen astudio, ond mae rhai sy’n beirniadu’r cynllun yn dweud bod y rhaglen yn cael ei chamddefnyddio.
Ond does dim tystiolaeth eang ei bod yn cael ei “gamddefnyddio”, meddai adroddiad gan y Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo yr wythnos ddiwethaf.
“Mae myfyrwyr tramor yn rhan bwysig o’n prifysgolion, ac yn dod â llu o fanteision cymdeithasol ac economaidd i’n campysau a’n cymunedau ar draws Cymru,” meddai Amanda Wilkinson wrth golwg360.
“Mewn marchnad recriwtio fyd-eang gystadleuol, mae’r Llwybr Graddedigion yn hanfodol i’n gallu i gystadlu fel cyrchfan astudio, ac mae’n hollbwysig i gynaladwyedd parhaus y sector addysg uwch.
“Yng Nghymru, mae gennym ni gyfran is o raddedigion yn ein gweithlu, sy’n gwneud y Llwybr Graddedigion yn arf arbennig o bwysig wrth fynd i’r afael â’n hanghenion sgiliau.”
Ers mis Ionawr, all myfyrwyr sy’n gwneud cwrs ôl-raddedig ddim dod â theulu sy’n dibynnu arnyn nhw efo nhw oni bai bod eu cwrs wedi’i ddynodi fel “rhaglen ymchwil”.
Cyn hynny, roedd ganddyn nhw hawl i wneud cais am fisas i ŵr, gwraig, partner sifil neu bartner dibriod a phlant dan ddeunaw oed.
“Mae newidiadau polisi a gyflwynwyd yn gynharach eleni eisoes wedi cael effaith sylweddol, gyda nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol wedi gostwng yn sylweddol ers eu gweithredu.
“Buasai penderfyniad i gau neu gyfyngu’r Llwybr Graddedigion yn cael effaith uniongyrchol ar sefydlogrwydd ariannol y sector.
“Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar argymhellion y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a rhoi sicrwydd pendant bod y fisa Graddedigion yma i aros.”
‘Effaith anghymesur’
Un opsiwn sy’n cael ei ystyried gan Rishi Sunak ydy cyfyngu’r fisas i brifysgolion sydd yng Ngrŵp Russell, byrhau cyfnod y fisas, neu atal teuluoedd rhag dod draw gyda myfyrwyr.
“Enghraifft sy’n dod i’r meddwl ydy Prifysgol Aberystwyth – mae hi mor bwysig i’r economi leol yno, ac mae’r myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r math yma o bolisi’n gallu cael effaith ar brifysgol, a bysa hynna wedyn yn cael effaith enfawr ar yr ardal o gymharu â phrifysgolion sydd yng nghanol Llundain.”