Byddai tynhau fisas i raddedigion yn cael effaith anghymesur ar ardaloedd sy’n dibynnu ar brifysgolion fel prif gyflogwyr, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor.
Mae David Cameron, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, wedi rhybuddio Rishi Sunak y bydd prifysgolion yn gorfod cael gwared ar swyddi, a chau hyd yn oed, pe bai’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Bwriad Rishi Sunak ydy cyflwyno cyfyngiadau ar fisas graddedigion, er mwyn sicrhau mai dim ond “y gorau a’r disgleiriaf” fydd yn cael dod i’r Deyrnas Unedig.
Mae prifysgolion yn gynyddol ddibynnol ar fyfyrwyr o dramor, sy’n talu ffioedd uwch.
Mae’r fisa i raddedigion yn caniatáu i fyfyrwyr o dramor aros am ddwy flynedd ar ôl gorffen astudio, ond mae rhai sy’n beirniadu’r cynllun yn dweud bod y rhaglen yn cael ei gamddefnyddio.
Ond does dim tystiolaeth eang ei fod yn cael ei “gamddefnyddio”, meddai adroddiad gan y Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo yr wythnos ddiwethaf.
Un opsiwn sy’n cael ei ystyried gan Rishi Sunak ydy cyfyngu’r fisas i brifysgolion sydd yng Ngrŵp Russell, byrhau cyfnod y fisas, neu atal teuluoedd rhag dod draw gyda myfyrwyr.
‘Effaith enfawr’
Mae criw o weinidogion, gan gynnwys David Cameron; Gillian Keegan, yr Ysgrifennydd Addysg; Jeremy Hunt, y Canghellor; a James Cleverly, yr Ysgrifennydd Cartref, yn gwrthwynebu’r cam, gan eu bod nhw’n poeni y byddai’n annog darpar-ymgeiswyr i beidio â gwneud cais am lefydd ym mhrifysgolion gwledydd Prydain.
Yn ôl dadansoddiad gan Adran Addysg San Steffan, gallai atal teuluoedd rhag dod draw gyda myfyrwyr arwain at 0.5% o gwymp mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).
“Mae o’n bolisi sy’n mynd i gael effaith enfawr, ond un o’r pethau sydd wir o bryder i mi ydy y bydd yr effaith yma’n cael ei theimlo’n wahanol mewn ardaloedd gwahanol,” meddai Dr Edward Jones, darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, wrth golwg360.
“Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod am sawl prifysgol sy’n brif gyflogwr mewn ardal – y myfyrwyr sy’n creu’r bywyd yn yr ardal ac iddyn nhw gael yr ergyd yma fydd hi’n cael ei theimlo lot gwaeth.
“Enghraifft sy’n dod i’r meddwl ydy Prifysgol Aberystwyth – mae hi mor bwysig i’r economi leol yno, ac mae’r myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig.
“Mae’r math yma o bolisi’n gallu cael effaith ar brifysgol, a bysa hynna wedyn yn cael effaith enfawr ar yr ardal o gymharu â phrifysgolion sydd yng nghanol Llundain.
“Rydyn ni’n gwybod fod y prifysgolion hyn yn chwarae rhan bwysig yn yr economi, ond dydy’r un effaith ddim yn cael ei theimlo’r un peth ganddyn nhw.
“Wrth gwrs, mae’n mynd i fod yn bolisi sy’n mynd i fod yn niweidiol i’r economi, ond bydd yr effeithiau’n cael eu teimlo’n wahanol ar draws y wlad.”
‘Adeiladu cysylltiadau’
Y llynedd, cafodd 114,000 o fisas graddedigion eu rhoi i fyfyrwyr o dramor, a chafodd 30,000 arall eu rhoi i bobol sy’n dibynnu arnyn nhw.
Ers mis Ionawr, all myfyrwyr sy’n gwneud cwrs ôl-raddedig ddim dod â theulu sy’n dibynnu arnyn nhw efo nhw oni bai bod eu cwrs wedi’i ddynodi fel “rhaglen ymchwil”.
Cyn hynny, roedd ganddyn nhw hawl i wneud cais am fisas i ŵr, gwraig, partner sifil neu bartner dibriod a phlant dan ddeunaw oed.
Yn ôl yr Athro Brian Bell, cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo, mae’r rheolau hynny eisoes yn “cael effaith fawr iawn” ar niferoedd myfyrwyr o dramor.
Ychwanega Dr Edward Jones fod angen gwerthu i wledydd eraill er mwyn tyfu’n economaidd.
“Mae myfyrwyr yn cael profiad dysgu yn y ddarlithfa, ond mae o’n brofiad iddyn nhw ddysgu a chwrdd â myfyrwyr o dramor,” meddai. “Mae hynna’n rhan mor bwysig.
“Os ydyn ni’n sôn am dyfu’r economi yn gyffredinol, sut ydyn ni’n gwneud hynna ydy drwy werthu i wledydd eraill.
“Mae adeiladu’r cysylltiadau yna drwy siarad efo myfyrwyr tramor, mae o’n rhan bwysig – efallai nad ydy o’n cael ei adnabod na’i fesur, ond mae o’n rhan bwysig o adeiladu perthynas efo gwledydd eraill.
“Mae data’n awgrymu ein bod ni’n mynd yn y cyfeiriad cywir, ond mae’r economi dal yn fregus a ddylen ni ddim bod yn cyflwyno polisïau sy’n mynd i gael effaith negyddol ar yr economi, yn enwedig ar y cyfnod yma.”