Mae Ben Lake yn galw am sicrwydd na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dileu’r cynllun fisas i raddedigion yn y tymor hir.
Daw sylwadau Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, ar ôl i adroddiad newydd gan y Pwyllgor Ymgynghori ar Fudo awgrymu y gallai eu dileu gael “effaith anghymesur” ar economi ardaloedd y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Yn ôl yr adroddiad, does dim tystiolaeth eang fod yna “gamddefnydd” o fisa ôl-astudiaethau gan fyfyrwyr o dramor.
Dywed Ben Lake y byddai dileu’r cynllun yn “ergyd i economi Ceredigion”, sydd â phrifysgolion yn Aberystwyth a Llanbed (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).
Prifysgol Aberystwyth
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth newidiadau i’r ffordd y byddan nhw’n gweithredu, er mwyn arbed arian.
Mae hyn o ganlyniad i bwysau chwyddiant a’r “farchnad recriwtio ryngwladol yn dymchwel”, wrth i’r brifysgol ddarogan eu bod nhw’n wynebu bwlch ariannu o £15m dros y flwyddyn nesaf.
Mae pryderon hefyd y bydd yn golygu lleihau gweithlu’r brifysgol gan 8% i 11%, sy’n golygu rhwng 150 a 200 o swyddi’n cael eu colli.
Mae undeb prifysgolion a cholegau’r UCU yn dweud y bydd yn cael effaith sylweddol ar ardal Ceredigion yn benodol “o ystyried pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y brifysgol yn y rhanbarth”.
Sefydlogrwydd
Mae Ben Lake wedi ysgrifennu at James Cleverly, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn gofyn iddo ystyried effaith llai o fyfyrwyr rhyngwladol ar sefydlogrwydd ariannol prifysgolion.
Mae’n galw arno hefyd i barhau â’r cynllun fisas.
Dywed ei fod yn croesawu’r argymhelliad gan y Pwyllgor Ymgynghori ar Fudo y dylid cynnal y cynllun fisas, ac y byddai ei ddileu yn “achosi difrod anadferadwy” i brifysgolion fel Aberystwyth, sydd eisoes yn wynebu argyfwng ariannol.
‘Difrod anadferadwy’
Dywed y “dylai’r Swyddfa Gartref dderbyn y cyngor yn llawn, a chadarnhau y bydd yn cynnal y fisa i raddedigion”.
“Rwy’n croesawu cyngor diamwys y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadw’r fisa llwybr graddedigion,” meddai.
“Byddai ei ddileu yn achosi difrod anadferadwy i brifysgolion fel Aberystwyth sydd eisoes yn wynebu argyfwng ariannol.
“Mae’r adroddiad yn nodi y gallai cael gwared ar y llwybr effeithio’n anghymesur ar economïau lleol a rhanbarthol y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr, a byddai’n sicr yn ergyd i economi Ceredigion.
“Dylai’r Swyddfa Gartref dderbyn y cyngor yn llawn a chadarnhau y bydd yn cynnal y fisa llwybr graddedig.”