Mae wythnos y Cynnig Cymraeg, yn gyfle i ddathlu y cyrff hynny nad ydyn nhw yn dod o dan gwmpas y Safonau, ond sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau fod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg.
Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, mae dros 100 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth, ac mae brwdfrydedd tuag at y cynllun.
Bydd cyfle i chi ddarllen mwy am rai ohonyn nhw drwy gydol yr wythnos hon ar golwg360, ac os ydych chi yn awyddus i weithio tuag at gymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Cynnig Cymraeg RNIB Cymru
Mae RNIB yn elusen sy’n helpu pobol ddall neu â golwg rhannol i fyw’n annibynnol a mwynhau gweithgareddau bob dydd.
Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?
Mae RNIB Cymru yn falch o gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobol ddall neu â golwg rhannol yng Nghymru, gan gynnwys y canlynol:
- trawsgrifiad personol Cymraeg mewn fformatau hygyrch
- darparu lleisiau testun-i-leferydd Cymraeg, a chyngor am dechnoleg gynorthwyol Cymraeg
- gall ein cwsmeriaid gysylltu â siaradwyr Cymraeg eraill sydd â cholled golwg drwy ein grŵp sgwrsio Cyswllt Cymunedol
- Mae ein Gwasanaeth Cyngor Colled Golwg ar gael yn Gymraeg
- Rydym yn croesawu gohebiaeth gan ein cwsmeriaid yn Gymraeg
- Mae RNIB Cymru yn defnyddio’r Gymraeg ar ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Mae cyhoeddiadau a llyfrynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Mae staff a gwirfoddolwyr yn cael cyfle i ddysgu’r iaith neu loywi eu Cymraeg drwy fynychu cyrsiau ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?
Nid dewis yn unig yw cael yr opsiwn i ddefnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni’n gwybod fod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn Gymraeg, yn teimlo’n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn Gymraeg, ac mae hyn yn arbennig o wir pan fydd cwsmeriaid yn trafod materion sensitif.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.
Mae RNIB Cymru wedi darparu rhywfaint o wasanaethau Cymraeg ers degawdau, ac felly roedd paratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn gam naturiol tuag at wella ein darpariaeth, yn enwedig o ran hyrwyddo gwasanaethau.
Dechreuodd ein taith drwy gwblhau arolwg cynhwysfawr o’n defnydd presennol o’r Gymraeg ar draws y sefydliad ac fe ddaeth yn amlwg ble oedd ein cryfderau a’n gwendidau.
Fe wnaeth hyn sbarduno sgyrsiau adeiladol yn fewnol ac roedd yn gyfle gwych i atgoffa pawb am ein hymrwymiadau a phwysleisio gwerth cynnig gwanasaethau Cymraeg. Roedd y tîm yn wych wrth gynnig adborth a thrafod syniadau ar gyfer ein targedau, ac i helpu gyda newid meddylfryd i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg.
Unwaith roedd consensws ar draws ein sefydliad a thargedau ar waith, roedd y broses o ymgeisio am gymeradwyaeth yn glir ac yn gyflym.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Arian cyhoeddus yw llawer o gyllid RNIB Cymru. Mae dyletswydd arnon ni, felly, i sicrhau darpariaeth ddwyieithog i’r cyhoedd yn unol â’n canllawiau cyllido.
Yn bwysicach, mae RNIB yn credu bod cynnig gwasanaethau yn iaith ddewisol cwsmer yn rhan annatod o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid da a chyfle cydradd mewn cenedl ddwyieithog.
Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Mae derbyn y Cynnig Cymraeg wedi gwella ansawdd ein gwasanaethau, ac yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid bod RNIB wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel.
Mae’n ei gwneud hi’n amlwg ein bod ni’n elusen sydd wedi gwreiddio yng Nghymru, yn amlinellu ein hymrwymiadau i’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg. Mae’r gymeradwyaeth yn sicrhau cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb yng Nghymru ac yn adlewyrchu ein cymunedau’n gywir.
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?
Mae cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn rhoi dewis go-iawn i’n defnyddwyr.
Mae teimlo’ch bod yn gallu mynegi eich hun a theimlo’n gyfforddus a hyderus i gyfathrebu gyda darparwr gwasanaeth yn hollbwysig, er enghraifft wrth dderbyn diagnosis o golled golwg.
Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?
Mae paratoi ar gyfer derbyn y Cynnig Cymraeg wedi ein hysgogi i newid ein hagweddau i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg a sicrhau mwy o gysondeb yn ein darpariaeth drwy adolygu prosesau a gweithdrefnau mewnol a’u monitro’n gyson.
Mae’r Cynnig hefyd wedi rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar agweddau newydd, megis cynnig cyfleoedd i ddysgu’r iaith yn y gweithle a phwysleisio ein gwasanaethau trawsgrifio a thechnoleg gynorthwyol.
Fyddech chi’n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Yn sicr, mae’r broses o ymgeisio yn rhwydd ac mae staff swyddfa’r Comisiynydd yn barod iawn i helpu. Mae’r broses wedi ein hysgogi ni i ailfeddwl am sut rydyn ni’n gweithio ac wedi gwella ansawdd ein gwasanaethau. Ein gobaith yw y bydd hyn yn gwella ein cyrhaeddiad ar draws Cymru.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
Ewch amdani, mae’n gyfle gwych i wella a hyrwyddo eich gwasanaethau. Mae swyddfa’r Comisiynydd yn wych o ran cynnig cymorth ac mae’r broses o ymgeisio yn syml ac yn eglur.
Yn ymarferol, wrth ddatblygu’r cynllun, mae’n helpu os allwch sicrhau cefnogaeth gan unigolion o’r uwch dimau rheoli ac i rannu arfer da rhwng y timau o fewn eich sefydliad. Byddwch yn bositif a manteisiwch ar y cyfle.