Mae Wythnos y Cynnig Cymraeg yr wythnos hon yn ddathliad blynyddol o’r busnesau ac elusennau hynny sy’n cofleidio’r Gymraeg drwy sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg.

Ymysg y rhai diweddaraf sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg mae’r elusen GISDA, Samariaid Cymru ac archfarchnad Aldi.

Caiff y Cynnig Cymraeg, sy’n gydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd Iaith, ei roi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddfa’r Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

GISDA

Un elusen sydd wedi derbyn Cynnig Cymraeg yw GISDA.

Maen nhw’n darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobol ifanc ddigartref Gwynedd sdd rhwng 16 a 25 oed, neu’r rhai sy’n fregus, i’w galluogi i symud o gefnogaeth i annibyniaeth.

Yn ddiweddar, cawson nhw eu cydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid Cymru am eu harloesedd wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

“Ein gweledigaeth yn GISDA yw fod pob person ifanc yng Ngwynedd yn gallu byw bywydau diogel a hapus yn rhydd o unrhyw anfantais ac annhegwch,” meddai Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA.

“Rydym yn delio yn aml gyda phobol ifanc sydd angen cymorth ymarferol, ac mae’n hollbwysig ein bod yn gallu siarad â nhw yn eu dewis iaith.

“Rydym yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg, gan ei fod yn tanlinellu ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant sydd ynghlwm â hynny.

“Roedd ennill y wobr yn gydnabyddiaeth bellach o sut mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n gwaith o ddydd i ddydd.

“Ond yn bwysicach fyth yw bod y bobol ifanc rydym yn ymwneud â nhw yn gwerthfawrogi hynny.”

Annog eraill i fynd amdani

Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r cyrff hynny sydd wedi sicrhau cymeradwyaeth tra ar yr un pryd yn annog eraill i fynd amdani.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg,

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn maen nhw’n ei gynnig drwy’r Gymraeg, a thrwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg,” meddai.

“Hyd yn hyn, mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn, ac rwy’n falch o weld cymaint o amrywiaeth yn y sefydliadau sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth.

“Mae’n hollbwysig fod y gwaith o hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy ein gwaith rheoleiddio yn y sector gyhoeddus a’n hanogaeth yn y sector breifat a’r trydydd sector yn cyd-redeg, gan fod y ddwy elfen yn angenrheidiol os am gynyddu’r defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

“Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r cyrff sydd wedi ymrwymo i’n Cynnig Cymraeg, ac yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle.”

Ani-bendod

Anwen Jenkins o gwmni Ani-bendod

Un busnes sydd yn gweld gwerth masnachol o ddefnyddio’r Gymraeg yw ani-bendod, cwmni o Geredigion sydd yn gyfrifol am greu gweithiau celf a dillad i blant.

“Wrth i fi sefydlu’r cwmni roedd yn gam naturiol i sicrhau fod unrhyw waith marchnata yn cael ei wneud yn ddwyieithog,” meddai Anwen Jenkins.

“Yr hyn sydd wedi fy mhlesio yw cymaint y mae hynny yn cael ei werthfawrogi gan ddilynwyr a chwsmeriaid y busnes.

“Rwy’ wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o’r busnes, ac mae’n braf cael cynllun fel y Cynnig Cymraeg sydd yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o’r ymrwymiad hynny.”

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg dros 100 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.