Mae ymgyrchwyr wedi ennill yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Wrecsam i gymeradwyo’u Cynllun Datblygu Lleol.

Yn ôl cynghorwyr sy’n ei wrthwynebu, mae dyfarniad y llys yn “gam arwyddocaol iawn ymlaen”.

Yn ei ddyfarniad, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Lewison y gall yr achos fynd yn ei flaen i’r Llys Apêl, gan ychwanegu bod “siawns wirioneddol” y bydd yr apêl yn llwyddo.

Ychwanega fod yr apêl yn “codi mater pwysig o ran egwyddor”.

Cefndir

Cynghorwyr sy’n cynrychioli rhan helaeth o Wrecsam sy’n ariannu’r her gyfreithiol, a hynny drwy sefydlu apêl Crowdfunder.

Maen nhw’n dweud bod dyfarniad y llys yn “ddatblygiad arwyddocaol iawn”.

Roedd cynghorwyr wedi pleidleisio yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol ddwywaith – fis Ionawr a mis Ebrill y llynedd.

O ganlyniad, aeth saith datblygwr tai i’r llys i gyflwyno her gyfreithiol.

Fis Tachwedd y llynedd, cafodd y dyfarniadau blaenorol eu dileu, gan orchymyn cynghorwyr i bleidleisio o blaid y cynllun.

Yn ôl y dyfarniad, cawson nhw eu gorfodi i’w dderbyn yn y pen draw, wrth iddyn nhw wynebu’r posibilrwydd o achos o ddirmyg llys yn eu herbyn, a bygythiad y bydden nhw’n eu dirwyo neu eu carcharu.

Wrth bleidleisio yn ei erbyn, roedd cynghorwyr o’r farn nad oedd e wedi’i lunio er lles trigolion Wrecsam.

Ymateb

Yn ôl y cynghorwyr, mae cynrychiolwyr democrataidd yn brwydro dros hawl pobol i herio buddiannau pwerus pobol nad ydyn nhw’n etholedig.

“Nid ar chwarae bach” roedden nhw wedi cyflwyno’r her, medden nhw, ac mae wedi costio’n ddrud iddyn nhw hefyd.

Maen nhw’n dweud bod ymdrechion wedi’u gwneud i’w tawelu nhw, a’u bod nhw’n poeni y gallai datblygwyr geisio caniatâd yn gyflym iawn ar gyfer datblygiadau ar dir allweddol, allai olygu 3,200 o dai ychwanegol ar ddwy ystâd.

Mae hefyd yn fater o warchod tiroedd gwyrdd, medd yr ymgyrchwyr.

Dywed y cynghorwyr eu bod nhw’n ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch a ddylai’r Cyngor oedi ar unrhyw benderfyniadau’n ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol o ganlyniad i ddyfarniad y Llys Apêl.

Maen nhw’n dweud bod camau cyfreithiol yn “ddrud ond angenrheidiol”, a’u bod nhw’n parhau i fonitro’r tebygolrwydd y bydden nhw’n ennill yn y pen draw.