Bydd Mudiad Meithrin yn rhewi unrhyw swyddi sy’n dod yn wag wrth i staff adael neu ymddeol, er mwyn arbed arian.
Dywed y mudiad eu bod nhw’n “gweithredu ar benderfyniadau anodd” yn sgil lleihad mewn nifer o grantiau sirol a chenedlaethol, a chynnydd mewn costau.
Pan fydd swydd yn dod yn wag, byddan nhw’n trafod pa rai fydd yn cael eu llenwi neu eu rhewi, gan roi blaenoriaeth i swyddi sy’n “hollol hanfodol” i gefnogi’r cylchoedd ar lawr gwlad, neu sy’n cael eu cyllido gan grantiau penodol.
Maen nhw hefyd yn lleihau eu presenoldeb mewn gwyliau cenedlaethol, a fyddan nhw’n methu cyfiawnhau mynd â pharc chwarae i Eisteddfod yr Urdd na’r Genedlaethol, a bydd eu stondin lawer llai na’r arfer.
“Wrth wneud hyn byddwn yn gwneud arbediad o dros £20,000 yn ein costau sydd gyfystyr â chost swydd,” meddai Dr Catrin Edwards, cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin.
“Serch hynny, bydd yr un croeso cynnes yn cael ei estyn i bob teulu wrth ymweld â ni yn y gwyliau hyn i gael blas ar weithgareddau amrywiol fydd yn rhan o arlwy’r stondin.”
‘Cynllunio i wneud colled’
Mae Mudiad Meithrin yn cynllunio ar gyfer gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesaf, fydd o fewn ffiniau fydd yn dderbyniol i gyllidwyr a’r Comisiwn Elusennau.
“Fel elusen ac un o sefydliadau sy’n gweithio yn y trydydd sector, mae’r flwyddyn nesaf am fod yn un heriol i’r Mudiad,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
“Gyda chostau’n cynyddu a grantiau’n lleihau, rydyn ni wedi bod yn rhewi swyddi ers sawl mis gan ddilyn canllawiau penodol i benderfynu a ydyn ni am lenwi’r swydd ai peidio.
“Ein blaenoriaeth yw cynnal ein safonau a’n gwasanaethau ar lawr gwlad yn ein Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.
“Wrth ragweld y cyfnod heriol yma o’n blaenau, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddenu grantiau o sawl ffynhonnell arall i wireddu prosiectau arbennig – un o’r rhain yw ein llwyddiant i ddenu grant o bron i £500,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
“Mae’r prosiect wedi’n galluogi i benodi tri aelod o staff i wireddu prosiect tair blynedd i greu a chynnal sianel YouTube Dewin a Doti, gan greu fideos amrywiol o wahanol Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru, gan ddod â’r Gymraeg yn fyw i gartrefi’r plant.”