Mae llefarydd addysg Plaid Cymru wedi ysgrifennu ar frys at Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, yn galw am adolygiad brys i gyflwr addysg uwch yng Nghymru.
Daw galwad Heledd Fychan yn dilyn adroddiadau gan Brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd am bwysau ariannol allai arwain at golli swyddi.
Yr wythnos ddiwethaf, roedd adroddiadau y gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio arbed £15m.
Ddydd Iau (Mai 9), dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, fod “newid sylweddol” i’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu er mwyn ceisio arbed arian erbyn hyn.
Bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol fel man cychwyn, meddai.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi dweud wrth eu staff nad yw eu sefyllfa ariannol “yn dda”, ac maen nhw wedi rhybuddio eu bod nhw’n wynebu diffyg o £35m eleni pe na bai camau’n cael eu cymryd.
Sector addysg uwch “mewn argyfwng”
Mae Heledd Fychan wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar drothwy Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar flaenoriaethau addysg yn y Senedd ddydd Mawrth (Mai 14), yn galw arni “i gydnabod mor fregus yw’r sefyllfa ar hyn o bryd [ym mhrifysgolion Cymru]”.
Dywed fod angen i Lywodraeth Cymru “ymrwymo i weithio gyda’r sector ar gynllun brys i sicrhau hyfywedd ariannol, yn cynnwys gwarchod swyddi ym mhrifysgolion Cymru”.
“Mae’r diswyddiadau a thrafferthion ariannol Prifysgol Aberystwyth, fel prifysgolion ar draws Cymru, yn bryderus dros ben.
“Mae’n sector addysg uwch mewn argyfwng – rwy’ wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i erfyn arnyn nhw i weithredu ar unwaith.
“Mae Plaid Cymru ac arbenigwyr o fewn y sector wedi bod yn rhybuddio Llafur ers blynyddoedd lawer am ba mor fregus yw’r sefyllfa.
“Mae ein prifysgolion ni yn adnodd gwbl angenrheidiol i ddyfodol ein gwlad.
“Maen nhw’n gyflogwyr pwysig, yn cyfrannu at ymchwil allweddol, yn rhan angenrheidiol o ddatblygu’r gweithlu mewn meysydd megis iechyd ac addysg, ac yn hanfod economaidd o unrhyw wlad ddatblygedig.
“Does dim rhagor o amser am eiriau cynnes gan Lywodraeth Llafur Cymru; rhaid gweld gweithredu.
“Mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet newydd gymryd cyfrifoldeb ar unwaith, a gweithio gyda’r sector ar gynllun brys i sicrhau hyfywedd ariannol ac i gadw swyddi ym mhrifysgolion Cymru.”