Bydd Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia ac arweinydd plaid Esquerra Republicana, yn camu o’r neilltu ac yn gadael ei rôl yn aelod seneddol ar ôl colli’r etholiad cyffredinol.
Gallai hynny olygu bod Carles Puigdemont, y cyn-arlywydd, yn dychwelyd i geisio ffurfio llywodraeth.
Enillodd Esquerra ugain sedd yn unig – 13 yn llai na’u cyfanswm yn 2021 – ac fe gollon nhw’r etholiad i Junts per Catalunya, oedd wedi ennill 35 o seddi.
Bydd Aragonès yn aros yn ei swyddi hyd nes bod modd ethol olynydd yn y blaid a’r llywodraeth, ar ôl dweud bod ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn “anodd”.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fu brwydr dros amnest i’r rhai gymerodd ran yn ymgyrch annibyniaeth 2017, y pandemig Covid-19, a nifer o heriau eraill ledled Catalwnia a Sbaen.
Mae lle i gredu bod dyfodol Oriol Junqueras a Marta Rovira, dau aelod blaenllaw o’r blaid, hefyd yn y fantol.
Mae Esquerra eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n ceisio ffurfio llywodraeth, a bod y cyfrifoldeb hwnnw yn nwylo’r Sosialwyr a Junts per Catalunya.
Carles Puigdemont a Junts per Catalunya
Mae’r canlyniad wedi arwain at gyhoeddiad gan Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, ei fod yn bwriadu ceisio dychwelyd i’r swydd yn dilyn llwyddiant Junts per Catalunya.
Dywed fod ei blaid yn fwy tebygol na’r Sosialwyr o ennill mwyafrif.
Enillodd Junts 35 sedd – tair sedd yn fwy nag y gwnaethon nhw eu hennill yn yr etholiad diwethaf – gan orffen y tu ôl i’r Sosialwyr, sydd eisoes wedi dechrau cynnal trafodaethau er mwyn sicrhau cefnogaeth fwyafrifol.
Er mwyn dod yn arlywydd, byddai’n rhaid i Carles Puigdemont sicrhau cefnogaeth Esquerra a’r CUP, gan obeithio y byddai’r Sosialwyr yn fodlon atal eu pleidlais.
Gallai droi wedyn at y Gyngres er mwyn sicrhau bod y Sosialwyr yn eu cynorthwyo.
Byddai angen cefnogaeth Sumar ar y Sosialwyr, ynghyd â Phlaid y Bobol, wrth i Vox atal eu pleidlais.
Mae Carles Puigdemont yn gobeithio y gallai Esquerra a Junts gydweithio, ond dydy hi ddim yn glir eto a fyddai’r ddwy blaid yn gallu dod o hyd i dir canol, gyda’r ffordd ymlaen ar gyfer annibyniaeth yn destun anghydweld.
Pe na bai modd i neb ddod i gytundeb, mae’n bosib y gallai etholiad arall gael ei gynnal tan bod enillydd clir, neu lywodraeth sy’n fodlon llywodraethu.