Mae ffilm ddogfen newydd wedi’i chreu gan ddynion ifainc, yn y gobaith y gall helpu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.
Mae Sound Lad? yn ffilm 15 munud o hyd sy’n canolbwyntio ar ganfyddiadau cymdeithas o wrywdod, a sut y gall ystrydebau niweidiol achosi problemau dwfn i ddynion o ran perthnasoedd.
Mae’r ffilm ddogfen wedi’i chreu ar gyfer ymgyrch Llywodraeth Cymru, Iawn, sydd wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda dynion ifainc yng Nghymru i’w haddysgu am drais ar sail rhywedd a pherthnasoedd iach, gyda’r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
Yn rhan o’r ymgyrch, cafodd cynyrchiadau It’s My Shout eu comisiynu i greu’r ffilm ddogfen.
Maen nhw’n gwmni cynhyrchu ffilm annibynnol sy’n darparu hyfforddiant i’r rhai sydd â diddordeb mewn creu ffilmiau ac yn y diwydiannau creadigol.
Cafodd dynion ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru gyfle i gynhyrchu’r ffilm, a thrwy wneud hynny, ymgolli ym mhwnc trais ar sail rhywedd, a hefyd ddysgu sgiliau cynhyrchu proffesiynol ac ennill sgiliau bywyd hanfodol.
Cynnwys dynion yn y sgwrs
Mae trais ar sail rhywedd yn gyffredin ledled Cymru a Lloegr, gyda phedair miliwn o fenywod a merched yn adrodd am droseddau gan ddynion a bechgyn bob blwyddyn.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys dynion yn y sgwrs, er mwyn darganfod sut y gallan nhw fod yn rhan o’r ateb.
Cafodd Sound Lad? ei ffilmio yn Wrecsam, Sir y Fflint, Casnewydd, Sir Ddinbych a Chaerdydd, ac mae’n cynnwys adroddiadau gonest gan ddynion, gan gynnwys rhai sy’n cyfaddef yn agored nad yw eu hymddygiad wedi bod yn ‘iawn’ yn y gorffennol.
Mae Lee Evans yn un sy’n frwd dros fynd i’r gym.
Mae’n cyflwyno’r podlediad Zito Run, ac yn ymddangos yn y rhaglen ddogfen.
“Dyna i gyd alla i wneud yw perchnogi’r hyn dw i wedi’i wneud yn y gorffennol, a bod yn atebol i fi fy hun,” meddai.
“Ond fel llawer o gartrefi eraill yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd, gwelodd fy mhlant bethau na ddylen nhw, ac mae’n fy mwyta’n fyw hyd heddiw.”
Mae’r rhaglen ddogfen hefyd yn ymdrin â materion fel trawma rhwng cenedlaethau, pwysau gan gyfoedion, a dylanwad personoliaethau ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Pe bai IAWN wedi bod o gwmpas pan oeddwn yn iau, dwi’n meddwl y byddai wedi gwella fy mhroblemau a gwneud i fi fynd i’r afael ag ymddygiadau problematig yn gynt,” meddai Cal Roberts, cynhyrchydd cerddoriaeth o Sir y Fflint, am ei ran yn y prosiect.
“Mae’r prosiect wedi fy helpu am ei fod wedi arwain at fyfyrio ar fy ymddygiadau yn y gorffennol, a sut mae nifer ohonynt wedi deillio o fy mherthynas â dynion eraill, gan gynnwys fy nhad.
“Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi bod yn fath o achubiaeth i fi ar gyfer yr adegau yna wnes i frifo pobol gyda fy ymddygiadau.
“Mae angen cariad ar ddynion ifainc.
“Mae hynny’n beth anodd ei drafod gyda dy dad pan nad ydych chi erioed wedi siarad am y math yna o beth.
“Ac alla i ddim dychmygu ei fod erioed wedi siarad â’i dad e am y math yna o beth.
“Dw i’n meddwl bod yna bethau’n mynd ymlaen rhwng y genhedlaeth sy’n ein torri ni efallai weithiau.
“Cael sgwrs yw’r allwedd i’r cyfan.
“Mae’n hanfodol i ddadwneud rhai o’r ymddygiadau problematig hyn.”
Ymgysylltu cymunedol
Un o obeithion y tîm cynhyrchu yw bod y ffilm ddogfen yn amlygu “gwaith llwyddianus” Iawn a’i “ddull arloesol” o ymgysylltu â’r gymuned.
O sesiynau mewn campfa paffio i sgyrsiau gyda sêr realiti a myfyrwyr, mae dynion o bob cefndir wedi helpu i lunio’r ffilm hon gyda’u hanesion agored o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn, a sut y gallan nhw greu mannau diogel i annog bod yn agored ymhlith eu cyfoedion.
Mae’r ffilm ddogfen hefyd yn cynnwys Mataio Brown, yr ymgyrchydd gwrth-drais a sylfaenydd She Is Not Your Rehab, ddaeth draw o Seland Newydd i weld ymgyrch Iawn ar waith.
“Yr hyn dw i’n mynd i’w gymryd gyda fi ’nôl i Seland Newydd ar ôl bod yma yng Nghymru yw ei bod hi’n iawn i fi siarad yn agored gyda fy ffrindiau,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni ddechrau cael y sgyrsiau dewr hyn.”