Mae’r ymgyrch iaith Toni Schiavone wedi colli achos llys tros docyn parcio uniaith Saesneg.

Mae llys yn Aberystwyth wedi dyfarnu yn ei erbyn, ar ôl i’r cwmni One Parking Solution ddwyn achos er mwyn hawlio costau.

Ond mae’n dweud y bydd yn parhau i wrthod talu’r ddirwy hyd nes ei fod yn derbyn copi o’r rhybudd gan y cwmni yn Gymraeg.

Yn ôl y barnwr yn y llys, doedd dim sail cyfreithiol i orfodi’r cwmni i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, ond mae Toni Schiavone yn mynnu bod hyn yn amlygu “diffyg difrifol” yn y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.

Cefndir

Derbyniodd Toni Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020, a hynny am barcio mewn maes parcio preifat yn Llangrannog.

Ond gwrthododd e dalu, gan na dderbyniodd y rhybudd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, er iddo fe anfon dau lythyr at y cwmni, yn ogystal â’u ffonio.

Cafodd y ddau achos cyntaf eu taflu allan o’r llys o ganlyniad i faterion technegol, ond mewn gwrandawiad ar Ionawr 26, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i’w erlyn, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.

“Mae’r Gymraeg yn Iaith swyddogol a chyfartal yng Nghymru, ac mae gennym ni fel siaradwyr Cymraeg hawliau yn ôl y gyfraith, ac mewn egwyddor, dylid parchu hynny,” meddai Toni Schiavone.

“Mae’r cais am Daleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn rhesymol ac yn ymarferol.

“Byddai wedi costio tua £60 i’w gyfieithu.

“Gallai’r achos yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Taleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog.

“Ydy peidio gwneud hynny yn dangos rhagfarn yn erbyn y Gymraeg? Yn fy marn i, yndi.”

Ymddygiad bygythiol

Yn ôl Toni Schiavone, roedd yr hawlydd wedi ymddwyn yn fygythiol, gan anfon llythyrau yn hawlio £10,156.70 o gostau cyfreithiol ddiwrnod cyn ei wrandawiad fis Ionawr, yn ogystal â llythyr arall gyda chostau ychwanegol dros £4,000 ddeuddydd cyn yr achos heddiw.

Yn ôl gwaith ymchwil Cymdeithas yr Iaith, byddai cyfieithu’r ddirwy i’r Gymraeg wedi costio £60.

Dywedodd y farnwraig Lowri Williams fod Toni Schiavone wedi ymddwyn yn “onest, egwyddorol”, ac wedi dangos “ymroddiad di-wyro i’r Gymraeg a’r achos dros yr iaith”.

Er hynny, dywedodd yn ystod ei dyfarniad nad oes unrhywbeth yn Neddf Iaith 1967, Deddf Iaith 1993, na Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 i orfodi’r cwmni parcio i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Daeth gorchymyn, felly, fod yn rhaid talu’r rhybudd o £100, yn ogystal â £70 ar gyfer costau gweinyddol, £11.90 o log, ac £85 ar gyfer ffi y llys, o fewn 21 diwrnod.

Wedi egluro’i dyfarniad a’i gorchymyn, dywedodd Toni Schiavone “Dwi’n deall, ond dwi’n gwrthod talu.”

‘Does gan y Gymraeg ddim statws cyfartal’

Yn ôl Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, mae’r dyfarniad yn dangos nad oes gan y Gymraeg statws cyfartal yng Nghymru, “er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru”.

“Mae’r farnwraig wedi gwneud ei gwaith yn drylwyr a chanfod nad oes unrhywbeth yn y ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod hawl Toni i ddefnyddio’i iaith ei hun yn ei wlad ei hun yn cael ei barchu,” meddai.

“Beth sy’n amlwg felly yw bod angen i Lywodraeth Cymru gywiro’r diffyg difrifol sy’n y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod pobol Cymru yn gallu defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.”