Bydd cronfa er cof am gyn-Gomisiynydd y Gymraeg yn helpu timau gofal diwedd oes a gofal lliniarol i ddysgu a defnyddio mwy o Gymraeg.
Yn dilyn marwolaeth Aled Roberts, y gwleidydd a chyn-Gomisiynydd, o ganser yn 2022, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac elusen Macmillan wedi derbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg.
Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunanastudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.
“Roedd Aled wedi dechrau ar y gwaith o drafod pwysigrwydd y Gymraeg gyda Macmillan yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg,” meddai Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts.
“Mi gawsom ni wedyn brofiad personol o bwysigrwydd y Gymraeg pan oedd Aled ei hun yn wael – iddo ef ac i ninnau.
“Roeddem yn ymlacio mwy pan oedd nyrs neu ddoctor yn siarad Cymraeg, ac ychydig o straen yn cael ei dynnu o sefyllfa anodd.
“Felly roedd cynnig pecyn Dysgu Cymraeg fyddai’n galluogi mwy o weithwyr i siarad Cymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes yn ddewis naturiol i ni.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gronfa hon.
“Mae’n cynnwys rhoddion hael yn dilyn marwolaeth Aled, yn ogystal ag arian gafodd ei gasglu gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chôr Johns’ Boys. Diolch i chi gyd.”
‘Ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith’
Ychwanega Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fod y Gymraeg yn agos iawn at galon Aled Roberts, fu’n ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith yn ei waith ac yn ei ardal enedigol yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.
“Mae’r gronfa hon wedi ein galluogi ni i greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd,” meddai.
“Byddwn hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn – eto, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.”
Bydd tlws yn cael ei roi hefyd, er cof am Aled Roberts, i berson sy’n gwirfoddoli yn y sector Dysgu Cymraeg.
Fe fydd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mai 14).