Mae ymosodiadau ar ddefaid yn digwydd yn wythnosol yn y gogledd, medd un o swyddogion heddlu’r llu.
Ymosodiad gan ddau gi XL Bully wnaeth ladd 22 o ddefaid oedd yn cario ŵyn, ac anafu 48 arall, yw un o’r ymosodiadau cŵn gwaethaf i Iwan Owen, sy’n aelod o dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd, eu gweld.
Cafodd yr ymosodiad ar fferm ger Wrecsam ei ddal ar gamerâu cyrff swyddogion wrth iddyn nhw ffilmio cyfres newydd, Y Linell Las, ar gyfer S4C.
Fe wnaeth y ffermwr hwnnw golli gwerth tua £14,000 o anifeiliaid yn yr ymosodiad.
Bydd pennod gyntaf y gyfres newydd yn cael ei dangos ar S4C heno (nos Fawrth, Mai 14), ac mae’r rhaglen yn dilyn yr uned wrth iddyn nhw ymateb i ddau achos o ymosodiadau cŵn XL Bully ar ddefaid.
Mae’r brîd wedi cael ei wahardd ers Chwefror 1, oni bai bod gan berchnogion ffurflen sy’n eu heithrio.
“Mae’n siŵr bod y gang traffig yn cael llond bol o bobl sy’n yfed a gyrru. Wel, i ni, y poeni defaid sydd yn dod drosodd a drosodd,” meddai Iwan Owen, sydd wedi bod yn gweithio i’r heddlu ers 40 mlynedd.
“Be’ uffern mae rhywun eisiau XL Bully? Dw i ddim yn deall pam bod [neb] eisiau ci o’r ffasiwn beth mewn tŷ, mewn cartref.
”Meddylia pa mor gryf ydyn nhw, faint o niwed fysen nhw’n medru’i wneud – mae’n beryg bywyd.
“Maen nhw [ffermwyr] yn hogiau caled – maen nhw wedi hen arfer efo cŵn a chael gafael ar gi, ond fysa chdi ddim yn cymryd gafael ar XL Bully.
“Does yna ddim llawer o siawns i chdi gerdded oddi yna heb gael dy anafu yn ofnadwy.”
‘Neb eisiau cwffio efo ci’
Mae’r rhaglen hefyd yn ystyried rôl cŵn o fewn yr heddlu, ac yn dilyn PC Siôn Parry, sy’n swyddog gyda Heddlu’r Gogledd ers dros bymtheg mlynedd.
“Dw i bob tro yn cymharu ci i ddeg plismon, a mwy weithiau,” meddai. “Mae pobol eisiau cwffio efo plismyn, does yna neb eisiau cwffio efo ci.
“Ti’n mynd at rywun a dweud wrthyn nhw i adael, ac mae yna gi yn glafoerio ac yn cyfarth – ti’n gadael, ’dwyt, os ti’n gall.”
Mae’r bennod heno yn dilyn Siôn Parry yn ymateb i achos o ddwyn car, lle mae’r cŵn yn gallu bod yn ddefnyddiol.
“Mae’n bleser eu gwylio nhw’n gweithio… Ddim fi sy’n gwneud y gwaith – y ddau gi ydy’r pethau clyfar, jyst y chauffeur ydw i!”
Yn ogystal â’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad a’r Uned Gŵn, mae’r gyfres chwe phennod yn edrych ar waith yr Uned Traffig, yr Uned Gwrthdrawiadau, a’r Swyddfa Reoli yn Llanelwy hefyd.