Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Seran Dolma, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobol Ifanc gyda Y Nendyrau.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda 

Nofel yw hi sydd wedi ei gosod yn y dyfodol agos, mewn byd lle mae lefel y môr wedi codi, a rhannau helaeth o’r arfordir wedi diflannu o dan y don. Mae’r cymeriadau yn byw mewn nendwr mewn dinas suddedig rhwyle yn Asia, a’r lloriau gwaelod o dan ddŵr. Mae amgylchiadau yn gorfodi Daniel a Rani, y ddau brif gymeriad, i adael y tŵr, ac mae nhw’n wynebu peryglon, ac yn cyfarfod pob math o gymeriadau, rhai sy’n eu bygwth a rhai yn eu helpu ar eu taith. Stori antur yw hi, stori am bobl ifanc yn tyfu i fyny. Ond stori hefyd am gyflwr y byd a sut mae pobl yn ymateb i amgylchiadau anodd. Ac mae yna nifer o benodau o nofel raffeg sy’n rhyw fath o is-blot, stori y mae Daniel yn ei chreu wrth i’r stori ddatblygu. Dwi’n meddwl bod hynny’n eithaf unigryw.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Popeth! Fy nghefndir yn gweithio mewn cadwraeth, fy ngradd meistr mewn Amgylchedd a Datblygiad, y sefyllfa efo newid hinsawdd a’r amgylchedd, prosiect celf fues i’n rhan ohonno o’r enw Utopias Bach, gradd meistr mewn ysgrifennu creadigol na wnes i ddim llwyddo i’w gorffen, ond oedd rhywsut yn ganolog i wneud i mi feddwl y gallwn i ysgrifennu nofel.

Ond y man cychwyn oedd y ddelwedd ddaeth i fy mhen i un diwrnod pan oeddwn i’n sefyll tu allan i’r coleg yn Bangor, o’r tŵr yn sefyll yn y mor, a’r bobl yn byw ynddi. A dechrau meddwl wedyn pam eu bod nhw yno? Sut fydden nhw’n goroesi?

Oes yna neges y llyfr?

Oes, mae’n siwr. Bod y byd yn brydferth ac yn llawn caredigrwydd, ac yn hyll ac yn llawn creulondeb ar yr un pryd. Bod perthynas pobl ifanc a’u rhieni yn newid wrth iddyn nhw dyfu, a bod hynny’n medru bod yn anodd.   Bod angen cwch go lew i fynd i hwylio, bod merched yn dda am ddarllen map, ac na ddylid byth derbyn diod gan forleidr.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Dwi’n darllen lot, ac mae popeth yn dylanwadu mewn rhyw ffordd. Dwi’n darllen yn fwriadol fel ymchwil hefyd, er enghraifft mi ddarllenais i Pete Goss, Close to the Wind er mwyn dysgu am gychod a hwylio ar gyfer y llyfr yma. Llyfrau eraill sydd wedi dylanwadu yn benodol ar Y Nendyrau yw On Fire gan Naomi Klein, a The Uninhabitable Earth gan David Wallace-Wells. Ond o ran y math o lyfrau dwi eisiau’i ysgrifennu, mae’n debyg mai Ursula Le Guin a Ruth Ozeki yw’r awduron dwi’n eu hedmygu fwyaf ar y funud.

Gallwch ddarllen mwy am yr holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!

Pleidlais Barn y Bobl: Sgwrs gyda Daf James

Cadi Dafydd

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn sgwrsio gyda’r awduron ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni