Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gydag Aled Jones Williams, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gyda Raffl.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Cyfres o ‘storïau byrion iawn’ yw Raffl a Storiau Eraill. Term ddefnyddiodd Ernest Hemingway ar un cyfnod, ac y bu i Dr Sioned Puw Rowlands ei ddefnyddio am dair o’r storïau pan gyhoeddodd hwy ar wefan Y Pedwar Gwynt sbel yn ôl. Ac mae’r storïau – ar wahân i adran ‘Amrywiol’ yn y canol – yn digwydd mewn cyfresi. Mae ‘Raffl’ ‘yn sôn am Selwyn ‘Sandals’ Evans sy’n wythnosol yn mynd â gwobrwyon raffl i’r enillwyr/wragedd amryliw eu cymeriad. Hona MacShane sy’n gneud pob math o giamocs. A’r gyfres olaf am Tricsi Bevan a’i ‘ffrind’ hirymarhous Moelwyn Paganussi, wrth i Tricsi ddod i delerau o fath â’r canser sydd wedi ei tharo. Y canser a gefais i.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Yr ysbrydoliaeth oedd yr awydd i edrych medrwn i ysgrifennu stori fer -un o’r cyfryngau anoddaf yn fy nhyb i; nes at delyneg neu englyn nag at ryddiaith hir ddywedwn i. Dechreuais efo cyfrol o storïau blaenorol o’r enw Tynnu (Gwasg Carreg Gwalch, 2022.) Y sialens ydy dal cyfanrwydd -tiriogaeth y nofel – efo ychydig farciau geiriol awgrymog -tiriogaeth yr englyn neu’r delyneg. Lwyddais i? Chi sy’n cael ateb hwnna!
Oes yna neges y llyfr?
Dw i’n meddwl ’mod i wedi symud oddi wrth ‘lenyddiaeth neges.’ Bywydau pobl yn eu hamwysedd moesol sydd yma. Pobl yn gneud eu gora ac weithiau’n methu. Os ydy hwnna’n neges, yna dyna fo’r ateb!
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Y dylanwadau mawr yn fy nyddiau ‘cynnar’- ac yn parhau o hyd oherwydd byddaf yn eu hail-ddarllen yn weddol aml -ydy Kate Roberts a Jane Edwards. Wrth ail gydio yn Rhigolau Bywyd neu Dros Fryniau Bro Afallon, nid yw gwefr y ‘tro cyntaf’ wedi pallu dim. Yn ddiweddar yr wyf yng nghanol Americaneg gydag awduron fel Donald Barthelme, George Saunders, Lydia Davis, Diane Williams. A wastad ddarllen un stori o leiaf gan Tjecoff bob yn hyn a hyn er mwyn cadw fy hun tu mewn i ffon fesur ddiogel. Os am arbrofi -ac nid wyf yn dweud fy mod, eraill sydd wedi dweud hynny erioed – rhaid gofalu fod un ffêr wrth dennyn yn sownd wrth awdur mawr.