Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Daf James, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobol Ifanc gyda Jac a’r Angel.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol! Ond pan mae’r Nadolig yn dechrau diflannu o’i gwmpas, a theulu’r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd – a’r Nadolig – am byth.

Mae’n nofel ffantasïol sy’n plethu a gwyrdroi elfennau traddodiadol y Nadolig. Yn ogystal â’r angel, mae’r stori hefyd yn cynnwys Boneddiges Eira, Camel sy’n hedfan, pensiynwyr sy’n troi’n geirw, teulu o fugeiliaid, tair brenhines drag ddoeth a Siôn Corn wrth gwrs. Ac mae Jac yn eu harwain oll i orchfygu teulu cas yr Heroniaid ac achub y Nadolig! Mae’n stori ddoniol, emosiynol a gorfoleddus am fachgen a’i ysbryd anorchfygol, sy’n dysgu sut i ddefnyddio grym ei ddychymyg i oleuo’r tywyllwch.

Gyda 24 pennod – un ar gyfer bob un o ddiwrnodau’r adfent – mae’r nofel yn cynnig traddodiad newydd i blant Cymru.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Ro’n i’n obsessed gyda’r ffilm Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones pan o’n i’n blentyn. Ro’n i’n arfer gwylio hi ar y VHS bob bore cyn mynd i’r ysgol gan nodi lawr geiriau caneuon fel bo fi’n gallu mynd a’u canu nhw yn ystod amser egwyl ar y delyn!

Am wn i, sgwennes i’r nofel i’r Daf bach egsentrig, cwiar hwnnw oedd yn caru’r Dyn Nath Ddwyn y Dolig (ma yna gwpwl o nods bach i ddylanwad honno yn y nofel). Bydde fe wedi dwlu cael darllen llyfr hudolus yn y Gymraeg am fachgen bach sydd eisiau chwarae Mair. Pan o’n i’n tyfu lan roedd cynrychiolaeth LHDTC+ yn y Gymraeg yn brin ac yn aml roedd yn gynrychiolaeth negyddol. Erbyn hyn mae pethau’n wahanol, diolch byth!

Hefyd, yn aml dyw fy ngwaith i ddim yn addas i fy mhlant, felly ro’n i isie sgwennu rhywbeth allen ni fwynhau gyda’n gilydd. Llynedd, dyma ni’n eistedd lawr fel teulu i ddarllen pennod y diwrnod yn ystod yr adfent.

Oes yna neges y llyfr?

Bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân. Mae’r nofel hefyd yn dathlu amrywiaeth, nerth cariad, a bod sawl math o ‘deulu’ yn bodoli yn y byd yn ogystal â’ch teulu gwaed.

Mae hefyd yn bosib crisialu negeseuon y nofel drwy ddyfynnu caneuon yr anfarwol Eden a Caryl Parry Jones: ‘Paid â bod ofn’ a ‘‘Jyst bydd yn garedig’.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Pan o’n i’n blentyn ro’n i’n hoff iawn o lyfrau Gwenno Hywyn ac Irma Chilton yn ogystal â llyfrau Roald Dahl as C.S Lewis.

Yn hŷn, llyfrau fel At Swim, Two Boys; His Dark MaterialsTo Kill a MockingbirdWuthering Heights (a chân Kate Bush!).

Gallwch ddarllen mwy am yr holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!