Mae’r Eisteddfod wedi rhoi’r anrhydedd fwyaf un i’r cyn-Arwyddfardd Dyfrig Roberts.

Yn ystod seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, bydd yn cael ei gyflwyno fel Cymrawd anrhydeddus.

Yn ôl yr Eisteddfod, bydd yn derbyn yr anrhydedd fel “arwydd o ddiolchgarwch am flynyddoedd o wasanaeth i’r sefydliad”.

Yn wreiddiol o Fôn, dechreuodd cysylltiad Dyfrig Roberts â’r Eisteddfod yn sgil ei swydd yn beiriannydd, pan gafodd ei alw i ddelio â phroblem beirianyddol ar y Maes ym Mro Dwyfor, bron i 50 mlynedd yn ôl yn 1975.

Cafodd ei gwmni eu comisiynu i gynllunio Pafiliwn newydd wedi’i wneud o ddur, fu’n weithredol am ddeng mlynedd o 1977 tan 1987.

Yn sgil hyn, cafodd ei benodi’n aelod o’r pwyllgor technegol cenedlaethol, a bu’n aelod o’r pwyllgor tan 2019, ac yn gadeirydd am flynyddoedd.

Bu hefyd yn gweithredu ar lefel leol, gan gadeirio’r pwyllgor technegol lleol ddwywaith pan gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn ardal sir Conwy.

Dywed yr Eisteddfod y bu’n “barod iawn ei gymwynas” â nhw, gan wasanaethu ar bwyllgorau a grwpiau amrywiol, gan gynnwys y Bwrdd Rheoli a Chyngor y Brifwyl.

Bu hefyd yn ymwneud â Gorsedd Cymru, ac yn 2003 daeth yn Arwyddfardd, un o brif swyddogaethau’r Orsedd. Bu yn y swydd honno am bron i ugain mlynedd cyn ymddeol yn 2022.

‘Anrhydedd fawr’

“Mae cael fy ethol yn Gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd am bron i hanner canrif yn anrhydedd fawr,” meddai Dyfrig Roberts.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cydweithio ac yn fy nghefnogi ar hyd yn daith gyda’r Eisteddfod a Gorsedd Cymru.

“Ers y cychwyn, roeddwn i’n awyddus i roi lle amlwg i’r Gymraeg yn y byd peirianneg yma yng Nghymru, ac mae fy mherthynas gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi fy ngalluogi i wneud hyn.”