Mae’r wythnos hon yn Wythnos Cynnig Cymraeg, a bob dydd bydd blog newydd ar golwg360 gan sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig.
Mae wythnos y Cynnig Cymraeg yn gyfle i ddathlu y cyrff hynny nad ydyn nhw’n dod o dan gwmpas y Safonau, ond sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg.
Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, mae dros 100 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth ac mae brwdfrydedd tuag at y cynllun.
Bydd cyfle i chi ddarllen mwy am rai ohonyn drwy gydol yr wythnos hon ar golwg360, ac os ydych chi yn awyddus i weithio tuag at gymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Cynnig Cymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gorff cyhoeddus sy’n ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru.
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Mae’n iaith leiafrifol hynafol a chyfoes sy’n rhoi llais a golwg unigryw i ni ar y byd. Mae defnydd yr iaith yn hanfodol er mwyn ei chynnal fel iaith hyfyw ond mae hefyd yn bwysig cefnogi’r defnydd er mwyn annog creadigrwydd cyffrous, perthnasol a Chymraeg i bawb yng Nghymru. Trwy ddefnyddio’r iaith, gallwn ei theimlo a’i blasu a galluogi eraill i’w chlywed a’i phrofi.
Ein nod o fewn y Cyngor Celfyddydau yw bod yr iaith a diwylliant Cymraeg yng nghanol creadigrwydd; yn perthyn i bawb, yn destun dathlu celfyddydol ac yn gyswllt celfyddydol grymus rhwng cymunedau.
Pam fod cynnig gwasanaethau Cymraeg yn bwysig yn y maes celfyddydau yng Nghymru? Beth yw’r manteision o wneud hyn?
Mae’r Cyngor celfyddydau am annog, creu a rhannu cyfleoedd creadigol fydd yn cyfrannu at dwf mewn defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg trwy gefnogi sector y celfyddydau i osod y Gymraeg yng nghanol eu gweithredoedd. Rydym yn bwriadu cyflawni hyn trwy ofyn beth sydd ei angen ar y sector; gwrando a dysgu o’n gilydd a chydweithio i gynyddu argaeledd cynnyrch a gwasanaethau Cymraeg i bawb.
Mae’n hanfodol bod gan bawb y modd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn greadigol. Rhaid gwneud ymdrech i sicrhau hyn. Trwy ddulliau creadigol mae modd archwilio ein perthynas gyda’r iaith a darganfod ffyrdd newydd o’i defnyddio a’i rhannu. Er mwyn gwneud hyn yn bosib rhaid i ni sicrhau bod ein gwasanaethau creadigol a chelfyddydol ar gael ar draws cymunedau Cymru. Cynnydd mewn defnydd iaith o fewn y sector ac o fewn cymunedau yng Nghymru yn ogystal â chynnydd mewn gweithredoedd celfyddydol Cymraeg a Chymreig amrywiol fydd canlyniad hyn.
Pa mor bwysig yw cynnal perthynas a chydweithio gyda thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg?
Mae perthynas gadarnhaol ac adeiladol rhwng y Cyngor Celfyddydau a thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gweld cynnydd gwirioneddol mewn gwasanaethau sy’n cefnogi defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg. Trwy gydweithio, rhannu arbenigedd ac adnoddau a chyd ddathlu ein llwyddiannau mae modd i ni barhau i gynyddu ein gwybodaeth a’n cynigion i’r sector. Mae’n bwysig bod cyngor cyson a dibynadwy yn cael ei roi i’n defnyddwyr. Mae hyn y bosib trwy gydweithio.
Pam ydych chi’n annog sefydliadau celfyddydol i weithio gyda’r tîm Hybu tuag at dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Mae’r Cynnig Cymraeg yn farc safon arbennig o bwysig a defnyddiol i fudiadau celfyddydol. Mae’r broses o gyflawni’r cynnig ynghyd â’r gefnogaeth gan y tîm hybu yn caniatáu i sefydliadau sicrhau sail gadarn ar gyfer eu holl ddefnyddwyr. Er mwyn annog defnydd o’r Gymraeg gyda’r cyhoedd ac aelodau staff, rhaid creu amodau ffafriol ac adeiladol. Unwaith mae’r seilwaith yn ei le, gallwn gydweithio a chefnogi mudiadau i gymryd camau creadigol pellach. Mae’r Cynnig Cymraeg hefyd yn rhoi hyder a sicrwydd i’r sefydliadau ac i ninnau fel Cyngor, eu bod yn gweithredu yr hyn sydd ei angen.
Beth yw’r budd i sefydliadau celfyddydol dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Hyder a sicrwydd i’r sefydliadau eu bod yn gweithredu’n gywir ar gyfer y Gymraeg. Hyder i ni, fel corff ariannu, eu bod yn cyflawni’r hyn sydd ei angen ar gyfer y Gymraeg. Mae hefyd yn dweud wrthym bod y sefydliad yn cymryd datblygiadau ac anghenion y Gymraeg o ddifri a’u bod yn fodlon buddsoddi amser ac egni yn y datblygiadau hynny. Gydag arian yn brin a chystadleuaeth am gyllid yn cynyddu, mae gallu profi gweithredoedd trwy farc safon o gymorth i sefydliadu wrth chwilio nawdd.
Mae cynnydd defnydd o’r Gymraeg yn sicrhau fod sefydliadau celfyddydol yn berthnasol i bob elfen o’r gymuned maen nhw’n ei gwasanaethu. Trwy roi cyfleoedd creadigol Cymraeg i bawb a chefnogi agweddau cadarnhaol at yr iaith byddwn yn hybu hyder yn y defnydd ac yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
Peidiwch â bod ofn cymryd y cam. Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn hynod gyfeillgar a chefnogol. Fy nghyngor i yw i beidio ag ofni. Bydd pawb yn falch o’ch gweld yn cymryd y cam hwn i ddatblygu’ch seilwaith gyda’r Gymraeg. Mae’n debygol eich bod yn cyflawni mwy nag yr ydych yn sylweddoli eisoes ac mai camau bach fydd eu hangen i ddatblygu hynny’n bellach.