Mae Jeremy Miles yn galw am adolygiad mwy “eang” o Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r Undeb Ewropeaidd.
Daeth sylwadau Ysgrifennydd Economi Cymru wrth drafod dyfodol perthynas Cymru a’r Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Aeth Jeremy Miles gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol fore heddiw (dydd Mercher, Mai 15).
Daeth y Cytundeb i rym ar Fai 1, 2021, yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Ar y pryd, roedden ni (Llywodraeth Cymru) yn glir fod strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at gytuno’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ddim yn mynd i arwain at rywbeth oedd yn ddigonol ar unrhyw lefel,” meddai wrth y pwyllgor.
“Rydym yn gweld yr effaith o beidio cael cytundeb sy’n galluogi pobol i symud o gwmpas Ewrop.”
Cyfeiriodd at natur ddryslyd y trefniadau presennol, a’r ddealltwriaeth ohonyn nhw fel rhywbeth sydd wedi “cymhlethu’r dirwedd yn sylweddol iawn”.
“Dwi’n credu’i fod e’n fregus yn benodol i gwmnïau bach, ac i artistiaid llawrydd sydd efallai yn cychwyn eu gyrfaoedd.”
Mae ariannu’r celfyddydau o dan y chwyddwydr ers i Lywodraeth Cymru dorri 10% oddi ar gyllid diwylliant.
Dywed Lesley Griffiths ei bod hi’n “siomedig” nad yw’n bosib cael mynediad at arian gan Creative Europe, yn enwedig ar ôl i’r cyllid hwnnw gynyddu.
Dyletswydd Llywodraeth Cymru
Wrth siarad am ddyletswydd Llywodraeth Cymru, dywedodd Jeremy Miles fod rhaid sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn sgwrs ehangach â’r Undeb Ewropeaidd.
“Ein swyddogaeth ni yw sicrhau fel llywodraeth ein bod yn gwneud y ddadl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig o fewn cyd-destun eu perthynas nhw â’r Undeb Ewropeaidd.”
Ar fater dyfodol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, dywedodd fod rhaid cael adolygiad mwy “eang” er mwyn mynd i’r afael â phroblemau sydd wedi codi.
“Mi fyddaf yn gwneud y ddadl am adolygiad mwy eang o’r cytundeb, oherwydd dw i’n credu ei fod yn gyfle i fynd i’r afael â rhai o’r pethau rydym yn eu trafod heddiw.
“Ond yn y bôn, mae hwn yn benderfyniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mi fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y ddadl am ymagwedd uchelgeisiol.”
Mae disgwyl i adolygiad y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad ddechrau yn 2026.