Mae ffigurau diweddara’r Trussell Trust yn “adlewyrchu’r realiti poenus i ormod o deuluoedd o lawer”, yn ôl llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan.
Mae Jo Stevens wedi ymateb ar ôl i’r elusen ddweud eu bod nhw wedi dosbarthu mwy o becynnau bwyd dros y flwyddyn ddiwethaf nag erioed o’r blaen.
Yn ystod y flwyddyn ariannol rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, roedden nhw wedi dosbarthu cyfanswm o 187,400 o becynnau bwyd brys.
Cafodd oddeutu 88,900 o bobol gymorth gan fanciau bwyd, a 47,700 ohonyn nhw am y tro cyntaf erioed.
Roedd 65% o’r cymorth wedi’i roi i deuluoedd â phlant, ac roedd cynnydd o 14% yn y cymorth i aelwydydd â phobol 65 oed a hŷn.
Y prif resymau pam fod pobol yn troi at fanciau bwyd yw incwm isel neu broblemau’n ymwneud â dyledion, sy’n cyfrif am 72% o’r achosion.
Dywed y bydd Llywodraeth Geidwadol “yn llywyddu dros gwymp mewn safonau byw dros gyfnod Senedd am y tro cyntaf mewn hanes modern”.
“Byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gyrru’r twf economaidd sydd ei angen er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol,” meddai.