Dimitri Batrouni sydd wedi’i ddewis i olynu Jane Mudd yn arweinydd Grŵp Llafur Cyngor Casnewydd, ac mae disgwyl iddo ddod yn arweinydd newydd Cyngor y Ddinas.

Mae’r Cynghorydd Jane Mudd yn paratoi i adael ei swydd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar Fai 21.

Yn gynharach y mis yma, cafodd ei hethol yn Gomisiynydd newydd Heddlu Gwent.

Enillodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni ei sedd fis Mai 2022, ar ôl symud i’r ddinas o Sir Fynwy, lle treuliodd e ddegawd yn gynrychiolydd etholedig, a lle bu’n arweinydd yr wrthblaid Lafur am naw mlynedd.

Ei blaid oedd y blaid fwyaf yn Sir Fynwy yn etholiadau 2022, oedd yn golygu ei fod e wedi colli’r cyfle i arwain y Cyngor Sir.

Ond bellach, mae disgwyl iddo fe gymryd rheolaeth dros Gyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ymadawiad yr arweinydd Jane Mudd.

‘Diolch’

Cyhoeddodd Grŵp Llafur Casnewydd ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr (nos Fawrth, Mai 14) fod y Cynghorydd Dimitri Batrouni am gymryd yr arweinyddiaeth, yn dilyn proses ethol fewnol.

Diolchodd i’w gydweithwyr yn y blaid am ei ethol yn arweinydd y Grŵp, gan dalu teyrnged ar X (Twitter gynt) i “flynyddoedd o arweinyddiaeth gadarn”.

Daeth y Cynghorydd Jane Mudd yn arweinydd Cyngor y Ddinas yn 2019, a bydd hi’n parhau i gynrychioli ward Malpas pan fydd hi’n dechrau yn ei swydd yn Gomisiynydd Heddlu Gwent.

Wrth ysgrifennu ar X, dywedodd Grŵp Llafur Casnewydd fod y Cynghorydd Jane Mudd wedi arwain y Cyngor “drwy’r amserau mwyaf anodd a thywyll welodd ein dinas ers canrif”.

“Wrth i chi gamu o’r neilltu, rydych chi’n gadael y ddinas yn gryfach ac yn barod ar gyfer yr hyn ddaw nesaf,” meddai’r Grŵp Llafur wrthi.

Bydd y Cynghorydd Deb Davies yn parhau i fod yn ddirprwy arweinydd Grŵp Llafur y ddinas.