Mae gan Blaid Cymru “gyfle” yn etholiad nesa’r Senedd, yn ôl Theo Davies-Lewis, sy’n dweud bod “cwestiynau strategol” i’w hateb o hyd.

Wrth siarad â golwg360, dywed y sylwebydd gwleidyddol fod disgwyl i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gafodd ei sefydlu yn 2021, ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio hwnnw, mae Plaid Cymru wedi llwyddo i weithredu polisïau megis prydau ysgol am ddim, ac yn fwy diweddar, diwygio’r Senedd.

Ond roedd canlyniad etholiadau’r Senedd yn 2021 yn “sioc fawr” iddyn nhw, yn ôl Theo Davies-Lewis.

“Mae’r Blaid mewn sefyllfa anodd iawn ers etholiad Senedd 2021,” meddai wrth golwg360.

“Mi roedd hwnna’n sioc fawr i Adam Price.

“Roedden nhw’n disgwyl bod yn y Llywodraeth, neu o leiaf yn ryw fath o brocer pŵer.”

Dyfodol y Cytundeb Cydweithio’n codi cwestiynau

Rhun ap Iorwerth a Vaughan Gething

Y disgwyl ydy y bydd y Cytundeb Cydweithio yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae Theo Davies-Lewis yn dweud mai dyma fydd yn codi’r cwestiynau mwyaf i’r arweinydd Rhun ap Iorwerth ynglŷn â strategaeth y Blaid.

“I fi, mae yna gwestiynau eithaf strategol i Blaid Cymru, a rhai dydyn nhw byth yn mynd i ateb yn y ganrif yma, ynglŷn â’r math o blaid maen nhw eisiau bod,” meddai Theo Davies-Lewis.

“Mae yna gyfle iddyn nhw, ond mae e’n dibynnu ar sut maen nhw’n ymateb i newidiadau yn San Steffan, a hefyd sut maen nhw yn gweld eu perthynas efo’r Blaid Lafur yn ehangach hefyd.

“Mae’n edrych fel bod y Cytundeb Cydweithio yn mynd i orffen, ac wedyn dw i’n credu y byddwn ni’n gweld y strategaeth.

“Os fydd hyn yn digwydd, bydd rhaid iddo fe [Rhun ap Iorwerth] fod yn glir efo beth yn union ydy strategaeth y Blaid yn symud ymlaen.”

Blwyddyn wrth y llyw

Bydd hi’n flwyddyn gyfan fis nesaf ers i Rhun ap Iorwerth ddod yn arweinydd Plaid Cymru.

Yn ôl Theo Davies-Lewis, bu’n flwyddyn “anodd” iddo, ond dywed ei fod wedi perfformio’n dda i gadw’r ddysgl yn wastad ar ôl ymddiswyddiad Adam Price yn dilyn canfyddiadau adroddiad Prosiect Pawb.

“Yn edrych yn nôl rŵan, maen nhw wedi’i ffeindio fe’n anodd iawn i symud ymlaen o’r etholiad yna a’r sleaze efo’r cyhuddiadau gwahanol, oedd yn ofnadwy ac yn sioc i blaid sydd yn eithaf bach.

“Dwi yn credu bod Rhun yn perfformio yn eithaf da ar lawr y Senedd.

“Ond dw i yn edrych mwy tuag at sut mae’n mynd i ffocysu Plaid Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

“Fel capten, mae wedi gwneud yn siŵr bod y llong yn eithaf cytbwys, sy’n cael ei adlewyrchu gan y ffaith nad oes dim argyfyngau wedi digwydd ers iddo fod i mewn.”