Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd newydd Plaid Cymru, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “bositif iawn” ynghylch gallu’r blaid i symud ymlaen yn dilyn “amser heriol”.
Dywed fod y blaid yn ymwybodol o’r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud yn dilyn adroddiad Nerys Evans i honiadau o “ddiwylliant gwenwynig” gan gynnwys bwlio, aflonyddu a gwreig-gasineb (misogyny), a bod cynllun ar waith ganddyn nhw eisoes.
“Mae rhywun yn dod i mewn i swydd sydd yn heriol yn ei hun, mae arwain unrhyw blaid wleidyddol yn heriol, ac wrth gwrs mae’n digwydd ar amser heriol i’r blaid wrth i ni wynebu materion mewnol,” meddai.
“Ond rydan ni’n gwybod am y gwaith aeth i mewn i Prosiect Pawb ac mae o’n faes, wrth gwrs, sydd yn effeithio ar bob un blaid wleidyddol, a gymaint o sefydliadau eraill.
“Oherwydd ein bod ni wedi bod drwy’r broses o sylweddoli bod hyn angen ei ddatrys, mae gennym ni gynllun gwaith rŵan.
“Rydw i’n bositif ynglŷn â’n gallu ni dan ein harweinyddiaeth ni rŵan i weithredu’r argymhellion yna, er mwyn gallu symud ymlaen a gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud fel Plaid Cymru, sef cyflwyno gweledigaeth i bobol Cymru o’r hyn y gall y genedl fod.”
Canmol y Cytundeb Cydweithio
Ymysg yr hyn mae’r blaid wrthi’n gweithio arno ar hyn o bryd mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru.
Cafodd y cytundeb tair blynedd ei gyhoeddi fis Tachwedd 2021.
Y bwriad yw datblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu polisïau’r cytundeb, sy’n ymwneud â 46 maes datganoledig.
Disgrifia Rhun ap Iorwerth y cytundeb fel un “arloesol” sydd yn galluogi cydweithio ar feysydd sydd yn “bwysig iawn o ran egwyddor y blaid.”
“Mae hwn wedi bod yn rywbeth arloesol yn wleidyddol, mewn difri, lle mae Plaid sydd yn glir yn gweithredu fel gwrthblaid yn cydweithio efo’r Llywodraeth i weithredu polisïau mewn nifer o feysydd allweddol,” meddai.
“Meysydd, wrth gwrs, sydd yn bwysig iawn o ran ein hegwyddor ni fel plaid.
“Rydym ni wedi gallu cyflawni llawer yn barod yn y deunaw mis cyntaf.
“Rydw i’n arbennig yn meddwl am y camau eithriadol o bellgyrhaeddol sydd wedi cael eu cymryd mewn perthynas â’r farchnad dai, er enghraifft.
“Rydyn ni wedi bod yn gwthio amdano fo ers blynyddoedd, a rŵan rydyn ni wedi gallu gweithredu arno fo mewn cydweithrediad â’r Llywodraeth.
“Rydyn ni wedi gallu cymryd camau o ran cyflwyno prydau ysgol am ddim, sydd mor bwysig fel rhan o’r ymdrech i ni daclo anghyfartaledd yng Nghymru ac i frwydro yn erbyn tlodi”.
‘Gymaint ar ôl i’w gyflawni’
Er y cydweithio, dywed fod meysydd o hyd lle nad yw’n credu bod y Llywodraeth yn gwneud pethau’n iawn.
“Wrth edrych ymlaen am y deunaw mis nesaf, mae yna gymaint eto rydyn ni eisiau ei wneud,” meddai.
“Mae yna gymaint ar ôl y gallwn ni gyflawni, a hynny drwy’r wleidyddiaeth aeddfed yma o weithio mewn cydweithrediad ac mewn cytundeb efo’r llywodraeth.
“Ond hefyd, wrth gwrs, rydyn ni’n dal i gyfri am yr holl feysydd yna lle dydyn ni ddim yn credu bod y llywodraeth yn cael pethau’n iawn, o iechyd i drafnidiaeth, a chymaint o feysydd eraill hefyd.”
O’r hyn sydd ar y gweill, disgrifiodd y broses o ddiwygio’r Senedd fel “cam hanesyddol” ar gyfer datblygiad Cymru fel gwlad.
“Bydd y datblygiad ar ein Senedd genedlaethol ni yn gam pwysig iawn yn ein datblygiad democrataidd ni, a’n datblygiad ni fel gwlad,” meddai.
- Bydd y cyfweliad llawn gyda Rhun ap Iorwerth yn rhifyn nesaf cylchgrawn Golwg (Gorffennaf 6).