A hithau’n ddiwrnod olaf Wythnos Gwaith Ieuenctid heddiw (dydd Gwener, Mehefin 30), mae Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Gwynedd yn dweud bod pwysigrwydd gwaith ieuenctid yn dechrau dod yn amlwg unwaith eto.

Wythnos o hwyl ac o ddathlu gwaith ieuenctid yw’r wythnos, ac mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynnal digwyddiadau yn y gymuned ac mewn ysgolion.

Daw hyn “ar ôl nifer o flynyddoedd o lymder” yn y sector ieuenctid, yn ôl Steffan Llŷr Williams.

“Mae pwysigrwydd gwaith ieuenctid yn dechrau dod ’nôl rŵan, ar ôl nifer o flynyddoedd o lymder,” meddai wrth golwg360.

“Roedd gwaith ieuenctid yn cael ei anwybyddu.

“Rwy’n meddwl bod pobol yn sylweddoli rŵan pa mor bwysig ydy gwaith ieuenctid i fynd i’r afael ag anghenion pobol ifanc, a hefyd i fynd i’r afael â llawer o’r problemau sy’n gallu dod allan os does dim gwaith i ieuenctid.

“Rydym yn cyffwrdd ar nifer o elfennau gwahanol o ran iechyd, addysg ac iechyd meddwl, llawer o’r problemau mawr sydd yna mewn cymdeithas, a’n bod ni’n wasanaeth ataliol sy’n gobeithio gweithio efo’r bobol ifanc yma fel bo nhw ddim yn cyrraedd y pwynt ble mae angen gwaith arbenigol yn y meysydd yma.”

Perthynas rhwng pobol ifanc a gwirfoddolwyr ieuenctid

Drwy gydweithio â phobol ifanc, gall oedolion sy’n gwirfoddoli helpu i rwystro pobol ifanc rhag cael problemau yn eu bywydau, a’u helpu nhw efo’u datblygiad personol.

“Rwy’n meddwl efo gwaith ieuenctid, mae’n bennaf yn berthynas rhwng pobol ifanc a gwirfoddolwyr ieuenctid,” meddai Steffan Llŷr Williams wedyn.

“Mae gwaith ieuenctid yn parchu barn a safbwyntiau pobol ifanc trwy eu cael nhw i gyfrannu at y gwaith o gynllunio, creu a sefydlu’r gwasanaeth i fynd i’r afael â’r anghenion maen nhw’n codi efo ni.

“O ran y ddarpariaeth, mae’n dibynnu ar gyfranogion pobol ifanc.

“Mae’n waith ataliol sy’n helpu pob math o bethau o ran iechyd meddwl, yr ochr iechyd a’r ochr addysgiadol.

“Mae gwaith ieuenctid yn cyffwrdd llawer o elfennau gwahanol sy’n effeithio ar bobol ifanc tra bo nhw’n datblygu trwy eu harddegau.

“Mae gwaith ieuenctid yn galluogi pobol ifanc i ddatblygu yn gyfannol.

“Rydym yn gweithio i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol hefyd, a datblygu eu llais nhw fel bo nhw’n gallu bod yn ddylanwad postif, nid yn unig yn yr ysgol ond yn y gymdeithas o’u cwmpas nhw.”

Pum ffordd at les

Mae hon yn wythnos bwysig o safbwynt Cyngor Gwynedd, efo dathliadau wedi’u seilio ar y Pum Ffordd at Les, a gweithgareddau efo sefydliadau sy’n gweithio efo pobol ifanc.

Mae’r bobol ifanc wedi bod yn rhannu eu profiadau o waith ieuenctid trwy gyfrwng fideos.

“O ran Cyngor Gwynedd, rydym yn rhoi ffocws ar hyn yn amlwg yr wythnos yma,” meddai.

“Mae gennym ddathliadau yn yr ysgolion ac yn y gymuned sydd wedi cael eu seilio ar y Pum Ffordd at Les.

“Rydym yn trio cael pobol i fod yn fywiog, i roi yn ôl i’w cymdeithas, gwneud gwaith yn y gymdeithas, gwaith fel gwirfoddolwyr, codi arian, helpu’r gymuned…

“Mae yna elfen o gysylltu fel bo nhw’n gwneud cysylltiadau, ffrindiau, perthnasau, Pontio’r Cenedlaethau, gwneud gwaith efo pobol hŷn yn y gymuned, gwneud y cyswllt yna.

“Mae yna elfen o ddysgu fel bo nhw fel unigolion yn parhau i ddysgu ac addysgu eu hunain trwy gydol eu bywyd; bod yn sylwgar hefyd.

“Beth rydym yn ceisio gwneud efo gwaith ieuenctid yma yn Ngwynedd ydy bod pob gweithgaredd rydym yn gwneud wedi’i seilio ar un elfen o’r Pum Ffordd at Les yna.

“Rydym wedi rhannu llawer o fideos o adborth gan bobol ifanc yn siarad am eu profiad nhw gyda gwaith ieuenctid, a pha mor bositif a sut mae hyn wedi cael dylanwad arnyn nhw fel unigolion.

“Mae gennym hefyd weithgareddau sy’n cynnwys sefydliadau sy’n gweithio efo pobol ifanc yng Ngwynedd – sesiynau llesol, sesiynau addysgiadol a sesiynau hefyd sy’n weithdai sy’n uwchsgilio llawer o bobol ifanc fel rhan o godi ymwybyddiaeth am waith ieuenctid.”