Heddiw (dydd Gwener, Mehefin 30) yw’r cyfle olaf i bleidleisio ar gyfer cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn y Senedd eleni.
Bwriad y bleidlais yw cydnabod a dathlu’r cyfraniad mae ymgyrchwyr yn eu gwneud yng Nghymru, ac mae rhestr fer o bum deiseb i ddewis ohonyn nhw.
Rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni, cafodd y Pwyllgor Deisebau 187 deiseb oedd wedi derbyn bron i 130,000 o lofnodion rhyngddyn nhw.
Cafodd y bum deiseb sydd ar y rhestr fer eu henwebu gan aelodau’r Pwyllgor Deisebau, gyda’r amcan o gyfleu’r amrywiaeth o bynciau y bu’r Cymry yn ymgyrchu drostyn nhw yn ystod y flwyddyn.
Gallwch bleidleisio dros un o’r deisebau ar wefan y Senedd.
Gwella gofal iechyd endometriosis
Mae’r ddeiseb ar ofal iechyd endometriosis yn anelu i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â’r diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr yng Nghymru.
Yn ôl y ddeiseb, mae endometriosis yn effeithio ar ofal iechyd ac addysg ar lefelau economaidd, ariannol a chymdeithasol.
O ganlyniad i’r ddeiseb, derbyniodd y pwyllgor ohebiaeth gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, a phob bwrdd iechyd.
Mae’r pwyllgor yn dweud bod angen parhau i ymchwilio i endometriosis ac ymgysylltu â phobol sydd â phrofiad o fyw gyda’r cyflwr, wrth ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod.
“Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod sy’n byw yng Nghymru a’u teuluoedd gydag un ym mhob deg yn dioddef o’r cyflwr,” meddai Beth Hales, y deisebydd.
“Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner, ac mae rhestr aros chwe blynedd am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Gwahardd rasio milgwn
Mae’r ddeiseb gan Hope Rescue yn galw am wahardd rasio milgwn yn ymwneud â’r trac rasio annibynnol sydd yng Nghymru, lle mae cynlluniau ar waith iddo ddod yn drac milgwn Bwrdd Prydain Fawr.
Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y rasys sy’n cael eu cynnal yno bob wythnos.
Yn ôl Hope Rescue, maen nhw wedi derbyn tua 200 o filgwn, ac roedd 40 o’r rhain wedi’u hanafu.
Cafodd y ddeiseb ei thrafod yn y Senedd, a chlywodd y pwyllgor dystiolaeth gan elusennau lles milgwn, a rheiny sy’n ymwneud â’r rasio.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r cyhoedd a ddylai rasio milgwn gael ei wahardd.
“Mae rasio milgwn yn greulon yn ei hanfod, a phrin yw’r warchodaeth gyfreithiol sydd gan filgwn,” meddai Hope Rescue.
“Mae eisoes wedi’i wahardd mewn 41 o daleithiau yn yr Unol Daleithiau.”
Gwella cefnogaeth i rieni sydd wedi bod mewn gofal
Yn ôl deisebwyr sy’n galw am wella’r gefnogaeth i rieni mewn gofal, mae sawl rhiant sydd wedi bod mewn gofal yn aml yn wynebu gwahaniaethu, a dydyn nhw ddim yn derbyn y cyngor priodol.
Dywedon nhw nad yw gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i blant rhieni sydd wedi bod mewn gofal yn cael ei chasglu’n awtomatig.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan arbenigwyr a rhieni sydd wedi bod mewn gofal, a chyfrannodd hyn at ymchwiliad i ddiwygiadau ar gyfer plant a phobol ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor mewn egwyddor.
“Mae llawer o rieni sy’n gadael gofal yn profi ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol pan fyddant yn rhoi genedigaeth,” meddai’r deisebydd.
“Ar hyn o bryd, os oes unrhyw bryderon, mae rhiant yn cael eu cludo o’u cartref, eu teulu a’u ffrindiau ac yna’n cael eu rhoi mewn cartref maeth neu gartref preswyl i’w hasesu heb fawr o ystyriaeth i’r hyn sy’n sbarduno’r rhiant, na’u lles meddyliol.”
Gwella diogelwch dŵr ac atal boddi
Bwriad y ddeiseb ynghylch gwella diogelwch dŵr ac atal boddi oedd codi ymwybyddiaeth o’r camau gweithredu sydd eu hangen i gynyddu diogelwch dŵr, ac i fynd i’r afael ag effaith ddinistriol rhywun yn boddi ar eu teulu.
Cafodd y ddeiseb ei thrafod yn y Senedd ble gafodd gefnogaeth drawsbleidiol.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bum argymhelliad, gan gynnwys penodi gweinidog i arwain ar ddiogelwch dŵr a datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth.
“Fe foddodd Mark Allen, oedd yn 18 oed, ar ôl neidio i mewn i gronfa rewllyd ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2018,” meddai Leeanne Bartley.
“Rydyn ni eisiau achub bywydau ac arbed pobol rhag gorfod diodde’r torcalon a’r drasiedi o golli rhywun maen nhw’n eu caru drwy foddi.”
Gwella gwasanaethau i gleifion canser y fron metastatig
Mae’r ddeiseb ynghylch gwasanaethau cleifion canser y fron metastatig yn ymwneud â’r diffyg nyrsys arbenigol a diffyg data sy’n bodoli ar gyfer y rhai sydd â chanser y fron metastatig.
Yn dilyn dadl yn y Senedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i archwilio gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer canser y fron, a chafodd system gwybodaeth canser newydd ei chyflwyno i ganiatáu gwell defnydd o’r data.
Bydd Rhwydwaith Canser Cymru yn gweithio ar gyfres o lwybrau canser metastatig, gan ddechrau gyda chanser y fron.
“Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system,” meddai Tassia Haines o’r Rhwydwaith.
“Ar hyn o bryd, dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru – sefyllfa a allai adael cannoedd o bobol heb ddigon o gymorth”.