Mae Goruchaf Lys Sbaen wedi cyhoeddi gwarant o’r newydd i arestio Clara Ponsatí, Aelod Junts per Catalunya o Senedd Ewrop sydd o blaid annibyniaeth, pe bai’n dychwelyd i Sbaen.
Fe wnaeth y barnwr Pablo Llarena, sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad i’r holl gwestiynau’n ymwneud â threfnu refferendwm annibyniaeth 2017, gyhoeddi’r warant ar ôl i Clara Ponsatí fethu â mynd i’r Goruchaf Lys pan gafodd hi wys ym mis Ebrill, rai wythnosau ar ôl iddi ddychwelyd yn annisgwyl i Sbaen ddiwedd mis Mawrth.
Dywed y barnwr mai bwriad cyhoeddi’r warant yw clywed tystiolaeth yr Aelod o Senedd Ewrop, gan ei bod hi wedi’i chyhuddo o anufudd-dod, ond mae’r barnwr eisoes wedi dweud y byddai’r warant yn cael ei gohirio pe bai’r gwleidydd yn mynd i’r llys o’i gwirfodd.
Clara Ponsatí oedd y gweinidog addysg yn ystod adeg y bleidlais ar hunanlywodraeth.
Mae’r diwygio diweddar ar y gyfraith yn Sbaen a phenderfyniad y Goruchaf Lys i addasu’r cyhuddiadau yn erbyn trefnwyr y refferendwm sydd heb fod gerbron llys eto, gan gynnwys y cyn-arweinydd Carles Puigdemont, yn golygu nad yw hi bellach yn wynebu’r cyhuddiad mwyaf difrifol o annog gwrthryfel nac ymddwyn yn erbyn y drefn gyhoeddus drwy drais.
Does dim dedfryd o garchar ar gyfer anufudd-dod.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd ym mle mae Clara Ponsatí, ac mae ei thîm eisoes yn dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn ei dedfryd.
Cefndir
Roedd disgwyl i Clara Ponsatí fynd gerbron llys ym Madrid ar Ebrill 24 ar ôl cael ei harestio yn Barcelona.
Ond wnaeth hynny ddim digwydd, ac mae’r barnwr yn dweud nad yw’n derbyn yr eglurhad ei bod hi’n gwneud gwaith seneddol ar y pryd ac y gallai hi fod wedi ymddangos trwy gyswllt fideo dros y we.
Cafodd ei harestio yn Barcelona fis Mawrth, oriau’n unig ar ôl dychwelyd i Gatalwnia ar ôl dros bum mlynedd yn byw yn yr Alban a Gwlad Belg.
Dychwelodd hi er bod gwarant i’w harestio gan fod Sbaen yn ystyried bod y refferendwm annibyniaeth yn un anghyfansoddiadol.
Ymgyrch Catalwnia ar restr Europol
Yn y cyfamser, fe ddaeth i’r amlwg fod ymgyrch annibyniaeth yn ymddangos ar restr frawychiaeth Europol.
Dydy’r corff heddlu Ewropeaidd ddim wedi cyhoeddi’r manylion, yn unol â’u hawl i gadw’r manylion yn gyfrinachol, ond maen nhw’n dweud bod y dystiolaeth yn “ddigamsyniol”, ac nad eu gwaith nhw yw gwirio’r ffeithiau.
Daw hyn yn dilyn adroddiad ar frawychiaeth yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd, sydd hefyd yn cyfeirio at yr un ymgyrch yng Ngwlad y Basg fel un o’r ymgyrchoedd “mwyaf gweithgar a threisgar” yn Sbaen.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r ymgyrch yn cyfuno “ymwahanu gyda safbwyntiau asgell chwith eithafol” a “negeseuon yn erbyn gwladwriaeth a sefydliadau Sbaen, a chyfalafiaeth”.
Maen nhw wedi cael eu cymharu â Phlaid Gweithwyr Cwrdistan a grwpiau gweriniaethol Gogledd Iwerddon.