Mae’r ombwdsmon wedi penderfynu peidio cynnal ymchwiliad i neges ar Facebook gan un o gynghorwyr Sir y Fflint oedd wedi galw Prif Weinidog Cymru’n ‘Führer’.

Mae pwyllgor safonau Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ddydd Llun ar gyfer diweddariad ynghylch cwynion moesegol sydd wedi’u cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae adroddiad fydd yn cael ei ddarllen gan gynghorwyr yn rhoi sylw i gwynion sy’n ymwneud ag aelodau o Gyngor Sir y Fflint, ac aelodau o gynghorau tref a chymuned y sir.

Ers y diweddariad diwethaf fis Ionawr, mae saith o gwynion wedi’u derbyn, ond doedd dim ymchwiliad i’r un ohonyn nhw, ac mae pump yn dal ar y gweill.

Dim ond os oes tystiolaeth glir o dorri rheolau a’i bod hi er lles y cyhoedd y bydd yr ombwdsmon, sy’n ymchwilio i achosion honedig o dorri’r Cod ymddygiad, yn cynnal ymchwiliad.

Yr achos dan sylw

Un o’r cwynion gafodd ei gwneud gan aelod o’r cyhoedd yw fod Cynghorydd Sir y Fflint, sydd heb ei enwi yn yr adroddiad, wedi galw’r Prif Weinidog yn ‘Führer’ ar Facebook, gan ystyried bod hyn yn sarhad oedd yn cymharu’r Blaid Lafur â’r Blaid Natsïaidd.

Honnir nad oedd honiad y cynghorydd eu bod nhw ond wedi defnyddio’r gair Almaeneg ar gyfer arweinydd yn gredadwy.

Ar gais swyddog monitro’r Cyngor, cafodd y cynghorydd ei berswadio i ddileu’r neges oddi ar y wefan gymdeithasol.

Ond penderfynodd yr ombwdsmon, er ei bod yn sarhaus, na fyddai ymchwiliad er lles y cyhoeddus ac y gallai darfu ar ryddid barn.

Adroddiad

“Fe wnaeth yr aelod ddatgelu ei hun yn glir ar Facebook fel cynghorydd, felly roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n fodlon ei fyd fod y Cod Ymddygiad wedi cael ei ddefnyddio,” meddai’r adroddiad.

“Mae’r iaith gafodd ei defnyddio gan yr aelod, gan alw’r Prif Weinidog yn ‘Führer’, yn sarhaus ac nid yw’n iaith y byddai’r ombwdsmon yn ei chymeradwyo.

“O gofio’r cyd-destun, mae’r eglurhad ei fod yn gyfieithiad syml o’r gair ‘arweinydd’ heb hygrededd.

“Mae’n debygol fod yr iaith gafodd ei defnyddio’n awgrymu torri paragraff 4(b) y Cod Ymddygiad.

“Fyddai ymchwiliad i’r mater hwn ddim er lles y cyhoedd.

“Dydy hi ddim yn anghyffredin i aelodau etholedig ddweud pethau am wrthwynebwyr gwleidyddol y gall eraill eu hystyried yn haerllug neu’n sarhaus.

“Fodd bynnig, nid pwrpas y cod yw tarfu ar ryddid barn na mynegi gwahaniaethau gwleidyddol mewn modd cadarn.”

Cwynion eraill

Mae ymchwiliad yn dal ar y gweill i gwynion am ymddygiad honedig Cynghorydd Sir y Fflint.

Mae un o dair cwyn wedi’u gwneud gan gynghorydd arall fod neges ar wefannau cymdeithasol yn gallu cael ei gweld fel sarhad yn erbyn eu cymeriad.

Mae un arall o’r cwynion gan gynghorydd tref sy’n teimlo bod negeseuon y gwnaethon nhw eu derbyn yn fygythiol o ran eu natur, ac mae cwyn arall gan aelod o’r cyhoedd gyda nifer o honiadau sy’n amrywio o fwlio i fethu â datgan buddiant.

Bydd y Pwyllgor Safonau’n cyfarfod i dderbyn y diweddariad ddydd Llun (Gorffennaf 3).