Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gofynion cynllunio TGAU newydd i gael eu haddysgu o 2025, ac maen nhw wedi cael ymateb cymysg.

Golyga’r gofynion newidiadau i gynnwys a’r ffordd mae 26 o gymwysterau TGAU yn cael eu hasesu.

Bydd y prif newidiadau yn effeithio ar bynciau craidd sef y Gymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Hyd yma, mae’r newidiadau wedi cael eu cydnabod fel rhai “dadleuol”, gyda sawl un yn credu na fyddan nhw’n fuddiol.

Y Cwricwlwm Cymraeg

Bydd TGAU Llenyddiaeth ac Iaith Cymraeg yn cael eu huno i un cymhwyster, a bydd yr un fath yn digwydd o ran Saesneg.

Yn yr un modd, bydd Core Cymraeg yn cael ei gyflwyno i ddisodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith.

“Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg i fyfyrio’n well ar eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ac i ddeall sut mae’r byd o’n cwmpas yn cael ei ffurfio gan iaith, syniadau a phrofiadau o wahanol ddiwylliannau, amseroedd a lleoedd,” medd Cymwysterau Cymru.

Yr honiad yw y bydd y cymhwyster yn annog dysgwyr o bob gallu ieithyddol i fod yn fwy hyderus yn eu Cymraeg.

Fodd bynnag mae sawl un, gan gynnwys Mabli Siriol, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wedi dadlau cyn hyn mai dim ond “ail-frandio” yw hyn ac nad yw’n cynnig unrhyw gynnydd gwirioneddol o fewn y system addysg.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi awgrymu y dylid gwaredu Cymraeg ail iaith er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle hafal i ddysgu’r iaith.

Cyfnewid Gwyddoniaeth am Greadigrwydd

Bydd Gwyddoniaeth triphlyg hefyd yn diflannu, ynghyd â’r gallu i sefyll arholiadau Bioleg, Cemeg a Ffiseg ar wahân.

Yn hytrach, bydd disgyblion yn cael y dewis un ai i sefyll cymhwyster Gwyddoniaeth Sengl neu Ddwbl.

Bydd camau tebyg yn cael eu cymryd yn y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg gyda’r opsiwn o sefyll TGAU Dwbl neu un Sengl fyddai’n llai heriol.

Bydd y cwricwlwm hefyd yn cyflwyno mwy o bynciau creadigol, megis Dawns a Chyfryngau Digidol a Ffilm.

Ond mae rhai yn poeni bod hyn yn cymryd cyfleoedd oddi wrth y rheiny sydd eisiau gyrfa yn y byd gwyddoniaeth.

Bydd TGAU newydd yn cael eu cyflwyno mewn Iaith Arwyddion Prydeinig ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fis Medi 2026, gan gynnig dewis mwy eang o bynciau.

‘Mwy o ddewis a hyblygrwydd’

Mae Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru, yn dadlau y bydd “mwy o ddewis a hyblygrwydd” gyda’r newidiadau.

“Bydd y cynnwys wedi’i ddiweddaru’n llwyr a bydd yr asesiadau yn rhoi digon o gyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â themâu’r cwricwlwm newydd ac i wireddu’r pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm”, meddai.

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, hefyd wedi amddiffyn y newidiadau gan ddweud eu bod yn ganlyniad “blynyddoedd o ymgysylltu trylwyr”.

“Mae’r cyhoeddiad hwn gan Gymwysterau Cymru yn ganlyniad ymgysylltu helaeth ag addysgwyr dros y tair blynedd diwethaf ac mae’n cynrychioli cam nesaf pwysig yn y broses o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru,” meddai.

“Mae’r cymwysterau TGAU newydd yn rhoi sicrwydd i ymarferwyr, dysgwyr a rhieni.

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi ysgolion drwy’r newid hwn.”